Cartref >

 

Cyngor Archaeoleg Prydain

Lleoliadau Hyfforddiant Archaeoleg Cymunedol

Ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa mewn archaeoleg?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o gymunedau a phobl ifanc yn enwedig?

Mae Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA) yn cynnig lleoliadau bwrsari â thâl am ddeuddeg mis gyda 12 o sefydliadau ledled Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae Lleoliadau Bwrsari Archaeoleg Cymunedol (CATPs) wedi eu hanelu'n benodol at ddarparu hyfforddiant i unigolion sydd eisoes â gwybodaeth ymarferol dda o ddamcaniaeth a thechnegau archaeolegol, sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau i'w defnyddio yn eu gyrfa yn y dyfodol, er mwyn gwella'r berthynas rhwng y proffesiwn archeolegol ac amrywiaeth eang o gymunedau. Yn benodol, bydd y rownd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu diddordeb pobl ifanc yn y maes.

Mae'r bwrsarïau'n cael eu cyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) drwy ei rhaglen Sgiliau ar gyfer y dyfodol , gyda chefnogaeth gan Cadw, English Heritage a Historic Scotland. Bydd lleoliadau'n dechrau ym mis Hydref 2012, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael bwrsari cyflogedig o tua £16,450 (gweler y disgrifiadau swydd unigol am ragor o fanylion).

Y ddau sefydliad o Gymru sy'n cynnal y cynllun yw:

•  Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (Llandeilo)
•  Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg a Gwent (Abertawe)

Ewch i'n gwefan i gael manylion llawn y swyddi, lle gallwch lwytho i lawr y pecynnau cais ar gyfer pob swydd (sy'n cynnwys dyddiadau'r cyfweliadau)
www.britarch.ac.uk/community/bursaries 

Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau am leoliadau: Dydd Sul 19 Awst 2012

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]