 |
Newyddion 2005

|
Llwybr Coed Ganol Oesol yn
LLANGYNFELYN ger TALYBONT
Yn ystod Mehefin 2004 cychwynnodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
ar gloddio
rhan o lwybr coed ganol oesol a oedd yn croesi Cors Fochno yng Ngheredigion.
Roedd yn bosib gweld y llwybr ar yr wyneb yn debyg i fancin isel
yn croesi’r tir porfa. Bygythiad llym i barhad yr elfennau
o goed nodweddiadol yma oedd draenio’r tir a gwelliannau amaethyddol
eraill. Penderfynwyd felly ar waith o gloddio achubol wedi’i
ariannu gan Cadw . Roedd y cloddio hefyd yn gyfle o hyfforddiant
i fyfyrwyr o Athrofa Archeoleg a Hynafiaeth Prifysgol Birmingham
Roedd y coedydd yn ffurfio ffordd gerdded tua 1.5m
o led ac roedd cyfres o begiau neu bolion ,wedi’u bwrw i’r
mawn ,yn cefnogi’r holl strwythur .Wedi hyn, fe orchuddiwyd
y llwybr gan haenau o raean a oedd, i bob pwrpas ,yn ffurfio heol
ar draws y gors. Darganfuwyd dau o ddyddiadau radiocarbon allan
o ddau o’r coedydd yn dyddio i’r 10 fed- 11eg ganrif
AD ac mae dyddiadau dendroconolegol yn awgrymu y cwympwyd y coedydd
yma rhwng AD1080 a AD1120.
Ger terfynfa y de ,o’r sarn weladwy, fe welwyd
fod y llwybr yn gorwedd dros ardal eang o ysbwriel diwydiannol a
llosgfeydd. Yn ôl yr hyn a awgrymwyd gan yr archwiliad cychwynnol
o samplau o’r gwastraff fe gredir fod canran uchel o wastraff
plwm yno, a oedd felly yn awgrymu fod mwyn blwm wedi’u mwyndoddi
yn yr ardal gyfagos .Yn ddiweddar, fe dderbyniwyd dau ddyddiad radiocarbon
o 60 BC –AD90 ac AD20?220 am olosg o’r olion diwydiannol
yma sy’n awgrymu dyddiad hwyr o’r Oes Haearn neu’r
Oes Rhufeinig .
Sut y mae’r gweithgarwch diwydiannol yma
yn cysylltu gyda’r llwybr? Awgryma’r dyddiadau fod bwlch
hir o amser rhwng y ddau. Fodd bynnag, mae yn bosib bod y dyddiadau
radiocarbon o’r golosg allan o hen goedydd neu goed wedi’u
hail ddefnyddio. Posibilrwydd arall yw, bod gwaith diwydiannol wedi
parhau yn bell ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid a bod y llwybr yn
dyddio at ddefnydd diweddarach , hyd yn oed yn cysylltu gyda gweithgaredd
chwarelyddol ar ‘ynys’ Langynfelyn i’r Gogledd.
Denodd y cloddio diddordeb lleol anferth nes y
bu rhaid i un o Staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
, Richard Jones ymgymryd â’r
swydd o Swyddog Cyswllt gyda’r Cyhoedd.
Trefnodd Richard ymweliadau gan yr holl ysgolion
lleol ac fe sicrhaodd llawer iawn o sylw i’r cloddio yn y
wasg ,yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg, mewn papurau lleol
, ar orsafoedd radio ac ar newyddion y teledu. Cafwyd diwrnod agored
llwyddiannus iawn gyda thorf dda o bobl o’r ardal leol wledig
yn ymweld . Cafodd ddisgyblion hyn o’r ysgolion cyfun lleol
a rhai o Glwb Archeoleg Aberystwyth I’r Ifanc gyfle i fod
yn rhan o gyffro y darganfyddiad .I gyd daro gyda’r cloddio
cafwyd hefyd ‘Dyddiadur cloddio’ dwyieithog gan Archeoleg
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
ac mae’n bosib gweld hwn ar y wefan
www.dyfedarchaeology.org.uk/wdigdiary.htm
Yn ystod paratoi y dyddiadur cloddio sylwyd fod
yr ymweliadau i wefan yr Ymddiriedolaeth wedi cynyddu wyth gwaith
.
Bydd tymor arall o gloddio ar y safle ym mis Mehefin
2005 i ganiatáu ymchwiliadau trylwyr o’r gwaith diwydiannol
a gysylltir gyda phen deheuol y llwybr. Unwaith eto, ein bwriad
yw i sicrhau y bydd cydweithio rhwng y gymuned leol yn galon i’r
prosiect gyda’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan .
Cyswllt Prosiect : Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk
|

|
Crugiau Crwn
FAN FOEL o’r Oes Efydd
Yn ddiweddar bu Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yn gweithio gyda
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Cadw ar brosiect i gofnodi
a diogelu olion twmpath claddu o’r Oes Efydd yn Fan Foel ar
y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin (SN 8215 2234). Cofnodwyd cyflwr yr
henebyn ym mis Mehefin 2002 fel rhan o brosiect, a ariannwyd gan
Cadw, ar safleoedd claddu a safleoedd defodol o’r cyfnod Cyn
Hanes . Sylwyd bod y grug (Barrow) yn dioddef o erydu dychrynllyd
gan y gwynt a’r glaw a gan ymwelwyr yn symud cerrig i ffurfio
cysgodfeydd o gerrig i’r cerddwyr . Felly, fe benderfynwyd
ar gofnodi a chloddio rhan o’r crugiau ym Mis Mehefin 2004
Roedd y twmpath claddu isel yn gorchuddio cist
garreg ar ffurf bocs, ac fe’i amgylchynwyd gan gylch o gerrig
o gwmpas 11m mewn diamedr. Roedd y gist tua 1m o hyd ac yn 0.5m
o led ac yn cynnwys pentwr o esgyrn wedi’u hamlosgi. , wrn
pridd wedi’i dorri ( mwy na thebyg yn llestr bwyd)a nifer
o offer allan o fflint. Awgrymwyd gan archwiliad rhagbrofol ei fod
yn cynnwys esgyrn plentyn ac esgyrn o leiaf un mochyn . Darganfuwyd
allan o’r cerrig o gwmpas fod yna ail ôl o amlosgi,
ynghyd â thameidiau allan o wrn a choler iddo.
Erbyn hyn mae’r elfennau sydd wedi goroesi o’r heneb
wedi eu hamddiffyn o dan fatio ‘terram’ ac wedi eu hôl
- lenwi gyda cherrig a thywarch . Mae adroddiad interim ar y cloddiad
wedi ymddangos yn y ‘Carmarthenshire Antiquary’.
Cyswllt Prosiect: Gwilym Hughes
|


|
Newyddion Diweddaraf
Purfa Olew Esso
Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
wrthi yn gwneud cloddiad pwysig ar safle
yr hen Burfa Olew yn Aberdaugleddau. Bydd hwn yn fuan yn safle i
derfynfa Nwy Hylifol Naturiol. Nodwyd dau safle archeolegol ; cymhlyg
o waith metel cynnar o’r Canol Oesoedd a hen olion sianel
afon yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae’r cloddiad yn mynd
yn ei flaen .
Safleoedd claddu cynnar y canol oesoedd ar arfordir Sir
Benfro
Mae prosiect enfawr ar waith yn archwilio safleoedd tair o fynwentydd
cynnar canol oesol sydd dan fygythiad gan erydu ar y glannau yn
Ne Sir Benfro. Mae’r gwaith cychwynnol wedi’i ddechrau
ar un safle ;Bae Longoar ger LlanIsmel. Mae cloddiad ar raddfa lai
ar fin gychwyn yn y safleoedd yn Sain Ffréd a West Angle
ym mis Gorffennaf . Bwriedir gosod y newyddion diweddaraf o’r
gwaith yma ar ein gwefan.
Caer Rhufeinig Llandeilo
Rydym newydd glywed y bydd yr Ymddiriedolaeth yn trefnu archwiliad
rhagbaratoawl o’r Gaer Rhufeinig ,sydd newydd ei ddarganfod
,yn hwyr ym mis Mehefin a dechrau Gorffennaf.
Fe wneir y gwaith i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gydag
ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac arian gan Swyddfa Gymreig
Cronfa Ewrop . Fe fydd y prosiect hefyd yn rhan o’r ‘Gloddfa
Fawr Rufeinig’ gan Time Team ,Sianel 4 ,gyda darllediad byw
o safle’r cloddio yn ystod penwythnos 2il ,3ydd o Orffennaf
. Medrwch ddilyn datblygiad y cloddio drwy ein ‘Dyddiadur
Cloddio’ ar ein gwefan .
Cyswllt: Gwilym Hughes
|


|
Beth ydw i wedi
darganfod ?
Mae staff Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yn parhau i gofnodi
nifer o arteffactau diddorol sydd wedi cyrraedd ein swyddfa fel
rhan o’r cynllun gwirfoddol a noddwyd gan y llywodraeth i
ddarganfyddwyr o greiriau archeolegol . O ddiddordeb arbennig oedd
yr ‘Ampulla’ plwm pererin o’r canol oesoedd ,yn
dangos sgolop o Sant Iago de Compostela o Sbaen , a ddarganfuwyd
yn Sir Gaerfyrddin yn 2003. Yn wreiddiol, roedd wedi’i lanw
a dwr sanctaidd o safle pererindod , fe gysylltwyd yr ‘ampullae’
â’r wisg drwy glustiau ar bob ochr iddo. Darganfyddiad
diddorol arall, o gyfnod yr Oesoedd Canol ,oedd sêl matrics
a ddefnyddiwyd i greu argraffiad o ‘lofnod’ yn y gwêr
a ddefnyddiwyd i selio gohebiaeth. Mae’r enghraifft yma yn
dyddio o ganol hwyr y 13eg Ganrif. Mae’n darlunio ffigwr fenywaidd
yn dal llyfr agored ac mae’r llythrennau o gwmpas yr ymyl
yn darllen ‘Sêl Climence Arglwyddes Bois’. Gwyddwn
am faenor a elwid Bois yn Auxerre yn Ffrainc.
Yn ogystal â’r gwrthrychau personol
yma cofnodwyd darnau o arian o sawl cyfnod. Yn eu plith mae Denarius
,arian yr Ymerawdwr Trajan (98-117AD),i fyny at rôt o Oes
Elisabeth, a hyd yn oed darn yn darlunio y Brenin Sacsonaidd Aethelred
(978-1016AD) a ddarganfuwyd ger Talacharn .Un ffactor sy’n
creu pryder ,yw’r ffaith bod darnau arian o’r ugeinfed
ganrif yn diraddio yn gynt na rhai o gyfnodau cynharach ac felly
yn fwy anodd i’w hadnabod!
Mae Cynllun Symudol Hynafiaethau yn cyflenwi Prydain
gyfan ac mae’n bosib gweld yr holl ddarganfyddiadau a gofnodir
cyn 1600 ar y wefan , www.finds.org.uk.
Dylai unrhyw un sy’n darganfod unrhyw beth
yn lleol ac sy’n tybio y bydd o ddiddordeb archeolegol gysylltu
â Marion Page (m.page@dyfedarchaeology.org.uk).
Cyswllt Prosiect: Marion Page
m.page@dyfedarchaeology.org.uk
|

|
Archeoleg Parc Cenedlaethol Sir Benfro
Ers Ebrill 2004 mae Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yn derbyn cyllid gan Barc
Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro i gyflogi archeolegydd i ofalu
am archeoleg y Parc . Yr archeolegydd yw Polly Groom a dyma hi
i sôn am ei gwaith .
Rydw i’n arbennig o lwcus fel archeolegydd y Parc Cenedlaethol
i gael swydd wrth fy modd . Mae’r golygfeydd yn arbennig
, y bobl yn gyfeillgar ac mae’r tywydd yn sicr yn fy nghadw
ar flaenau fy nhraed ! Ond gorau oll, i fi, yw archeoleg y Parc
– mae mor wych !
Mae gan y Parc Cenedlaethol yma bopeth . Mae’r gorffennol
o’ch cwmpas ymhobman – o fan olion am fywyd cynnar
iawn i gestyll Canol Oesol ;o gaerau’r Oes Haearn i feysydd
awyrennau yr Ail Ryfel Byd .Mae’r holl dirlun wedi’i
ffurfio gan weithredoedd dyn yn y gorffennol , ac mae hyn yn rhoi
gwefr imi.
Mae nifer o gildraethau a thraethau bach y Parc yn enghraifft
dda o hyn – yn aml fe gewch dystiolaeth o ddiwydiant calch
y 19eg Ganrif ar ffurf odynau calch ac olion certi ger traethau
a amgylchynir gan caer bentir yr Oes Haearn ar y pentiroedd yn
dyddio nôl rhyw 2,500 o flynyddoedd , Mae rhai o’r
caerau yma – megis yr un yn St Davids Head – yn cynnwys
tystiolaeth o ail ddefnydd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac weithiau
hefyd yn ystod cyfnod cynnar y Canol Oesoedd . Mae cyfoeth o archeoleg
yn aros i’w archwilio !
Fodd bynnag, nid yw amgylchedd hanesyddol y Parc i gyd ynglyn
a safleoedd unigol a henebion penodol . Mae ffiniau caeau, adeiladau
ffermydd, llwybrau, lonydd , gatiau - mae’r holl bethau
yma, er efallai yn fach ac yn ddibwys, yn rhan o’r hyn a
elwir yn ‘dirlun hanesyddol’ .Yn unigol nid yw’r
pethau bach yma ,efallai ,yn bwysig ond gyda’i gilydd maent
yn rhan o gymeriad unigryw o’n Parc Cenedlaethol arbennig
ni .
Mae Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
, Awdurdod y Parc Cenedlaethol ynghyd ag
asiantaethau eraill ac unigolion yn cyd weithio i amddiffyn y
‘tirlun hanesyddol’ yma ac i wella ein dealltwriaeth
ohono .
Gobeithio y byddwch yn mwynhau archeoleg y Parc yma cymaint â
fi!
Cyswllt: Polly Groom
p.groom@dyfedarchaeology.org.uk
|
| |
Wythnos Genedlaethol Archeoleg
Yn dilyn llwyddiant Diwrnod Cenedlaethol Archeoleg
mae Cyngor Archeoleg Prydain wedi penderfynu ei ymestyn eleni i
wythnos. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau gyda gweithgareddau,
arddangosfeydd, yn Amgueddfa Ceredigion (ar Ddydd Sadwrn 23ain o
Orffennaf), Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili (ar Sadwrn 16eg o
Orffennaf ) ac yn ein cloddiad ym mae Sain Ffréd, Sir Benfro.
Bydd mwy o fanylion ar ein gwefan..
Cyswllt:
Marion Page – m.page@dyfedarchaeology.org.uk
|
| |
Yr ‘ HER ‘Ar-Lein
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
sy’n dal y cofnodion ynglyn â
safleoedd a henebion lleol yng Nghaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
(Historic Environment Record HER). Erbyn hyn mae’r HER yn dal
dros 39,000 o gofnodion ac mae yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth
ynglyn â thirlun y gorffennol yn yr ardal . Rydym yn croesawu
ymholiadau gan unrhyw un sydd am ddarganfod mwy am archeoleg yr
ardal. Ar hyn o bryd mae system gyfrifiadurol yn seiliedig ar y
we yn cael ei ddatblygu i wella mynediad at yr wybodaeth HER .Fe
wneir hyn mewn cydweithrediad gyda’r tair Ymddiriedolaeth
Gymreig arall a Archdigital Rhydychen (OAD).
Mae’r ymddiriedolaethau yn profi y cynnyrch
terfynol ar yr union adeg yma. Bydd y system newydd yn galluogi
mynediad i’r cyhoedd i ddata craidd , drwy’r rhyngrwyd
, ac fe obeithir y bydd hyn yn bosib erbyn yr Hydref 2005. Bydd
y cofnodion ar gael drwy wefan pob ymddiriedolaeth unigol yn ogystal
â gwefan portwll a ddatblygir i gynnig mynediad i wybodaeth
gan yr holl fudiadau treftadaeth. Drwy osod yr HER ar lein fe fydd
pawb yn gallu chwilio drwy’r cofnodion ei hunain o’u
cyfrifiadur ei hunain yn ogystal â chaniatáu staff
i fewn fwydo mwy o ddata. Bydd hefyd modd i’r cyhoedd gynnig
gwybodaeth a sylwadau i’r HER
Cyswllt:
Marion Page - m.page@dyfedarchaeology.org.uk
|
| |
Cadwch mewn cysylltiad
Mae Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yn awyddus i feithrin cysylltiadau gydag
aelodau o’r cyhoedd a grwpiau cymunedol. Efallai fod gennych
ddiddordeb yn ein gwaith fel archeolegydd amatur neu hanesydd
neu fel rhywun sy’n ymddiddori yng ngorffennol eich cymuned.
Efallai eich bod yn gweithio i fudiad a fydd yn awyddus i feithrin
cysylltiadau gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth am ein gwaith, derbyn cylchlythyron
cyfredol drwy’r post neu drwy ein gwefan, cysylltwch â
ni drwy gysylltu â’r cyfeiriadau isod ac fe fyddwn
yn anfon rhifyn diweddar o’n cylchlythyr atoch
Cyswllt:
Marion Page - m.page@dyfedarchaeology.org.uk
|
|