|
Newyddlen
Chwilota'r Tywi! Gwanwyn 2009
(mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd)
Gweithgareddau yn ystod 2009:
Adolygu'r dystiolaeth - Archaeoleg
 |
Wrth edrych ar y wybodaeth am y Cofnod Amgylcheddol
Hanesyddol, hen fapiau a dogfennau hanesyddol eraill, byddwn
yn casglu'r holl wybodaeth sydd eisoes yn bod am ardal y prosiect.
Byddwn yn edrych yn benodol ar ddatblygiad patrymau aneddiadau
a chaeau a sefydlu'r parcdir sydd mor nodweddiadol o'r dyffryn.
|
Gwirio'r canfyddiadau
 |
Bydd cyfres o deithiau cerdded ac ymweliadau
safle yn ymchwilio ac yn cofnodi canlyniadau ymchwil dogfennol
yn y maes.
|
Casglu tystiolaeth - Arolwg Mynwent Eglwys
 |
Cyfle i gofnodi a dadansoddi cerrig beddau
ym Mynwent Eglwys Sant Teilo a chanfod mwy am gymunedau Llandeilo
yn y gorffennol.
|
Casglu tystiolaeth - Arolwg Gwrychoedd
Dewch i wybod mwy am hanes ac adeiladwaith y gwahanol fathau o ffiniau
caeau sydd mor nodweddiadol o'r dyffryn. Bydd nifer o deithiau a
theithiau cerdded dan arweiniad gydag archeolegydd ac ecolegydd
yn edrych ar y cyfrinachau sydd gan wrychoedd am y gorffennol.
Casglu'r dystiolaeth - Cofnodion adeiladau
 |
Dewch i wybod mwy am hanes eich ty, neu'r
adeiladau yn eich pentref. Casglwch hen luniau a chymharwch
yr olygfa nawr. Bydd cofnodion adeiladau sylfaenol sy'n cynnwys
ffotograffiaeth a thaflenni cofnodi syml yn golygu bod modd
darganfod hanes a datblygiad yr adeiladau yn y dyffryn.
|
Arolwg Daearegol / Geomorffolegol
Cyfle i weithio gyda daearegwyr proffesiynol o Brifysgolion Llanbedr
Pont Steffan ac Aberystwyth, yn gwneud gwaith maes i ail-greu natur
newidiol y dyffryn dros gyfnod.
Profi Damcaniaethau
 |
Wrth edrych ar y wybodaeth bresennol a gasglwyd,
bydd cyfres o bedwar cloddiad ar raddfa fach yn cael eu cynnal
er mwyn ymchwilio i wahanol aneddiadau anghyfannedd yn y dyffryn.
|
Synhwyro'r Gorffennol
Pan wnaed gwaith archaeolegol cyn llinell biben LNG, edrychwyd yn
fras ar ddau safle dieithr, ond ni ymchwiliwyd iddynt. Bydd cyfle
i fod yn gysylltiedig ag arolwg geoffisegol i geisio sefydlu beth
yw'r safleoedd hyn, a allai daflu goleuni ar aneddiadau cynnar yn
y dyffryn.
Dewch i ymuno â ni yn 'Chwilota'r Tywi!'
Ffoniwch 01558 823131 neu ebost a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk
|