Cartref >

CYFLEOEDD I WIRFODDOLI AC YSGOLION UNDYDD GYDAG YMDDIRIEDOLAETH ARCHEOLEGOL DYFED

Mae cyfleoedd ar gael i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn cloddiadau ac arolygon archeolegol yn ystod y flwyddyn sy’n dod. I’r rhai heb ddim profiad o archeoleg, ond a hoffai roi cynnig arni, mae sesiynau ‘rhagflas’ byr ar gael, gyda chyfnodau hwy yn cael eu cynnig i’r rhai mwy ymroddedig. Ar ben hyn, cynhelir diwrnodiau agored, ysgolion undydd ac arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn. Mae union ddyddiadau rhai digwyddiadau eto i’w pennu’n derfynol. Am wybodaeth fanylach cysylltwch a Louise Austin (l.austin@dyfedarchaeology.org.uk) neu Richard Jones (r.jones@dyfedarchaeology.org.uk) ar 01558 825997.

Am gyfleoedd a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â Chwilota’r Dirwedd! cysylltwch ag Alice Pyper a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk ac mewn perthynas ag Arfordir - Treftadaeth Arfordirol - cysylltwch â James Meek j.meek@dyfedarchaeology.org.uk

 

Beddrodau Crwn Pant y Butler Round Barrows, Llangoedmor, Ceredigion

Y dyddiad dros dro ar gyfer y gwaith cloddio yma yw 6 hyd 17 o Fedi, yn ddibynnol ar y cynhaeaf. Cyswllt: K Murphy k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk

 

Fila Rhufeinig Newton, Cas-blaidd, Sir Benfro

Mae'r cloddiad ar y safle hwn wedi ei drefnu am un wythnos yn dechrau ar 2 Awst. Cyswllt: D Schlee d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk

 

Mae cloddiadau eraill yn ystod 2010 yn cynnwys:

Gwaith ar Feddrodau’r Oes Efydd yn Sir Benfro
Cloddio Beddrod yr Oes Efydd yng Ngheredigion
Cloddio safle ger Cors Caron

Caiff manylion am yr uchod eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cytuno ar y dyddiadau terfynol.

 


Mae cyflwyniadau, teithiau cerdded, cynadleddau a digwyddiadau eraill ar gyfer 2010 yn cynnwys:

Taith dywysedig gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar draws Mynydd Myddfai, dydd Sul 4 Gorffennaf 2010
Castell Nanhyfer, Sir Benfro - teithiau dyddiol o gwmpas cloddfeydd y castell ac eithrio bob dydd Iau, o 29 Mawrth i 23 Ebrill 2010 a 21 Mehefin i 16 Gorffennaf 2010.
Gwyl Archeoleg Prydain - Gwyl Archeoleg Garn Goch, ger Llangadog, Sir Gaerfyrddin, 31 Gorffennaf i 1 Awst 2010
Ysgol Ddydd Archeolegol Sir Benfro, Hwlffordd, 20 Tachwedd 2010
Cynhadledd Chwilota’r Dirwedd, Chwefror 2011

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]