Gemau Daearegol

Cemeg Calch

Craig waddodol yw calchfaen gyda chyfran uchel o Galsiwm Carbonad sy'n deillio o weddillion ffosiledig miliynau ar filiynau o anifeiliaid morol.

 

 

Pan gaiff Calchfaen ei effeithio gan wres neu asid mae'n trawsnewid yn nifer o gyfansoddion cemegol ansefydlog cyn troi'n ôl yn Galsiwm Carbonad. Gelwir y broses hon yn 'Gylch Calch'.

Pan gaiff calchfaen (calsiwm carbonad) (CaCO3) ei wresogi, gyrrir Carbon deuocsid (CO2) i ffwrdd gan adael calsiwm ocsid (CaO) a elwir hefyd yn galch brwd.

CaCO3 = CaO + CO2

Mae calch brwd yn gemegol ansefydlog ac yn gostig.

Pan gaiff calch brwd ei gymysgu â dwr (H2O) (proses a elwir hydradiad neu slecio) caiff gwres a stêm eu rhyddhau ac mae'r calch brwd yn troi'n galsiwm hydrocsid Ca(OH)2. Gelwir calsiwm hydrocsid hefyd yn galch tawdd.

CaO + H2O = Ca(OH)2

Mae'r calch tawdd yn adweithio gyda charbon deuocsid yn yr awyr (CO2), gan ryddhau dwr yn araf ac yn caledu wrth iddo fynd yn ôl i fod yn galsiwm carbonad.

Ca(OH)2 + CO2 = CaCO3 +H2O

Gall y broses hon ddigwydd yn naturiol (edrychwch ar y tudalennau daeareg) ond gall pobl wneud iddo ddigwydd yn rhwydd hefyd.

Alcalïau

Alcali yw 'halen' metal (Calswim yn yr achos hwn) wedi'i hydoddi mewn dwr, y gwrthwyneb i asid. Mae gan alcalïau pH uwch na saith, tra bo asidau â pH sy'n is na saith. Gall asidau ac alcalïau losgi eich croen.