Gemau Daearegol

Gemau Daearygol

Gellir canfod creigiau'n rhychwantu cyfnod rhyfeddol o 150 miliwn o flynyddoedd ger y ffordd rhwng Llangadog a Brynaman.


 

Y graig a gaiff ei chloddio fwyaf ar y Mynydd Du yw calchfaen.

Caiff calchfaen ei wneud o weddillion miliynau ar filiynau o greaduriaid bach y môr a suddodd i waelod môr trofannol bas pan fuon nhw farw ychydig dros 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd Prydain ar y cyhydedd! Os edrychwch chi'n ofalus efallai y gwnewch chi ddarganfod gweddillion ffosil rhai o'r creaduriaid hyn yn y calchfaen.

 

I'r gogledd ceir yr Hen Dywodfaen Coch ac i'r de cerrig grut a'r Mesurau Glo. Oherwydd ei daeareg ddiddorol, mae Chwarel Herbert a'r ardal gyfagos wedi'u cynnwys yn ardal Geoparc Fforest Fawr. Gallwch ddysgu mwy am Geoparc Fforest Fawr yn www.fforestfawrgeopark.org.uk

Yn ogystal â chalchfaen, mae mathau eraill o greigiau ac adnoddau mwynol sy'n brigo yn yr ardal hefyd wedi'u hecsbloetio at amrywiaeth o ddibenion. Defnyddiwyd silica i gynhyrchu briciau tân yn y diwydiant haearn.

Byddai 'Cleien' yn cael ei ddefnyddio i lathru copr a thunplat. Mae mathau eraill hefyd wedi'u defnyddio i finiogi llafnau.

Glo

Cloddiwyd glo o ochr ddeheuol y Mynydd Du ar raddfa fach i ddechrau at ddefnydd domestig ac i danio'r odynau calch. Ond ym 1838 golygodd datblygiadau newydd yn y diwydiant haearn fod modd defnyddio glo carreg y rhanbarth hwn yn y ffwrneisi haearn.

Haearnfaen

Roedd haearnfaen o Graig Cwm Twrch gerllaw yn cael ei weithio ar ddechrau'r 19eg ganrif yn Henllys. Byddai'r mwyn haearn yn cael ei fwyndoddi yn Ynyscedwyn a'i ofannu yn Aberhonddu neu yn Llandyfan.