Gemau Daearegol

Cynhyrchu Calch

I wneud calch, caiff calchfaen (calsiwm carbonad) (CaCO3) ei rostio (calchynnu) ar dymheredd dros 900°C.

 

 

Credir nad oedd defnyddio calch fel gwrtaith yn gyffredin tan y 16eg ganrif. Wrth i'r farchnad ar gyfer calch fel gwrtaith, mewn diwydiant ac fel deunydd adeiladu gynyddu, daeth graddfa cynhyrchu calch yn fwy diwydiannol a chynlluniwyd odynau mwy o faint a mwy effeithlon. Yn Chwarel Herbert a'r ardal gyfagos gellir gweld casgliad unigryw o odynau o feintiau a mathau gwahanol, yn rhychwantu llawer o'r newidiadau yn natblygiad odynau.

Mae'r hyn sy'n dilyn yn cyfieithiad a detholiad o lawysgrif yng Nghymraeg Fodern Gynnar yn dangos sut y byddai calch amaethyddol yn cael ei wneud yn ystod y canol oesoedd:

Torri eithin, rhedyn, drain, a phrysgwydd, yn y gaeaf, lle mae calchfaen wrth law; aredig cefnen saith llath o led; gosod ar honno haen o danwydd, yna calchfaen ac felly ymlaen am yn ail i uchder o dair llathen; a gwneud ffliwiau yn y tanwydd i bob cyfeiriad, fel bod modd i'r tân dreiddio i'r pentwr cyfan. Yna gorchuddio'r odyn â thyweirch ac ar y rhain gosod clai neu farl; yna ei danio, a phan fydd wedi cynnau'n dda, cau cegau'r ffliwiau, a gadael i'r cyfan losgi hyd nes bydd y tân yn torri drwy'r clai neu'r marl; yna ei orchuddio eto ac felly ymlaen, hyd nes bydd y tân yn torri drwodd am y trydydd tro, pan fydd wedi llosgi'n ddigonol: pan fydd wedi oeri ychydig, ei agor a chludo'r calch at ble mae ei angen. Dylid gosod calch unwaith pob naw mlynedd ar dir âr ac unwaith pob deunaw mlynedd ar laswelltir.

Gelwir hon yn 'Odyn Dros Dro'. Ychydig iawn o dystiolaeth weladwy o'r dull hwn o wneud calch sy'n goroesi uwchlaw lefel y tir.

Disodlwyd y dull odyn dros dro gan yr odyn Fflêr, adeiladwaith mwy o faint lle'r oedd tarddiad y tanwydd yn cael ei gadw ar wahân i'r calchfaen. Roedd yr odynau hyn yn cynhyrchu calch glân ond roedd rhaid eu datgymalu'n rhannol i dynnu'r calch.

 

Mewn Odynau Tynnu, roedd tanwydd a chalchfaen yn cael eu cymysgu mewn haenau. Cynlluniwyd yr odynau hyn i gael eu gweithredu'n barhaol (ar sail dymhorol) ond nid dyma sut y bydden nhw'n cael eu defnyddio o reidrwydd. Maen nhw wedi'u hadeiladu o gerrig, yn erbyn (allan o) glawdd naturiol fel arfer gyda'r twll tanio gyfwyneb â llawr y chwarel. Yn ôl Davies (1815) cyflwynwyd y math hwn o odyn i dde Cymru tua 1775. Parhawyd i'w hadeiladu hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif a defnyddid rhai hyd at y 1970au.

 

Mathau o odyn ar y Mynydd Du

Rhes o Odynau Fflêr ym Mrest Cwm Lloyd. Roedd rhaid datgymalu'r odynau hyn i gasglu'r calch, ac yna eu hailadeiladu os oedden nhw am gael eu defnyddio eto. Dim ond ychydig bach o galch oedd yn cael ei gynhyrchu bob tro y byddai'r odyn yn cael ei defnyddio. Oherwydd eu bod yn fach, heb eu hadeiladu'n llwyr o gerrig, mae eu holion yn aml yn anodd eu gweld.

 

O ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cymerodd Odynau Tynnu le'r Odynau Fflêr. Roedd y rhain yn fwy o faint ac roedd modd eu hailddefnyddio heb orfod ailadeiladu. Gellir adnabod yr enghraifft hon yn chwareli Clogau Bach oherwydd ei maint ac mae wedi'i hadeiladu allan o ochr y mynydd.

 

Mae hon yn Odyn Dynnu lawer yn fwy sydd wedi'i gosod mewn terasau yn llethr y bryn islaw chwareli Craig y Nos a Blaen y Gwawr. Gan fod yr odyn wedi'i thorri i mewn i'r bryn yn lle cael ei hadeiladu allan ohono, mae'n dal y gwres yn fwy effeithlon. Gellid cadw'r odyn hon ynghynn yn hirach, drwy dynnu'r lludw a'r calch o'r gwaelod ac ail-lenwi â cherrig a glo o'r brig.

 

Dyma Odyn Dynnu wedi'i moderneiddio yn chwareli Craig y Nos a Blaen y Gwawr. Mae arwyneb cerrig wedi'i osod arni ynghyd â leinin o friciau odyn.

 

Casglwyd y calch o waelod yr odyn mewn 'dram' oedd yn cael ei symud ar gledrau.

 

Mae'r odyn hon sydd wedi'i moderneiddio yn chwareli Foel Fawr wedi'i chau mewn concrit, ond nid yw'n edrych fel pe bai wedi'i haddasu i ddefnyddio 'dramiau'.

 

Adeiladwyd yr odynau mwyaf effeithlon yn gysylltiedig â'i gilydd i greu rhes soled. Roedden nhw wedi'u cynllunio ar gyfer cynhyrchu calch yn ddiwydiannol ar raddfa fawr. Mae'r enghreifftiau hyn yn Chwareli Bro Henllys a Chilyrychen yn Llandybie. Buddsoddwyd llawer mwy o arian i godi 'Odynau Clawdd' ac mae eu holion wedi goroesi'n well.


Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Odynau calch Chwarel Cilyrychen, c.1970au. Mae'r cynlluniau a'r dyddiadau'n amrywio'n fawr; o'r chwith i'r dde: odynau maen addurnedig o ganol y 19g a gynlluniwyd gan berchennog y chwarel Richard Kyrke Penson, pensaer eglwysi enwog; odynau maen diweddarach llai addurnedig ac odynau mawr concrit sy'n adlewyrchu pensaernïaeth yr engrhaifftiau cyntaf ; odyn faen blaen enfawr o'r 19g a rhes o dair odyn goncrit o ddechrau'r 20g.