Arianwyr

Rhestr o'r partneriaid sydd wedi cyfrannu i prosiect CALCH.

 

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed - www.dyfedarchaeology.org.uk

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, sydd wedi’i lleoli yn Llandeilo, sir Gaerfyrddin, yn sefydliad annibynnol sydd ag ymrwymiad rhanbarthol cryf ac sydd wedi’i hymroi i ddiogelu, ymchwilio, cofnodi a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol. Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu ym 1975 fel rhan o rwydwaith o bedwar sefydliad archaeolegol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Mae hi wedi’i ffurfio fel Cwmni Cyfyngedig Preifat ac yn Elusen Breifat ac mae’n Sefydliad Cofrestredig gan Sefydliad yr Archaeolegwyr.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
www.beacons-npa.gov.uk

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BBNPA) yn gyfrifol am reoli eiddo Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae’n helpu i weithredu polisïau ar gyfer gwarchod y dirwedd ac i hwyluso mwynhad o’r Parc. Mae wardeiniaid y Parc yn gweithio’n agos gyda phartneriaid eraill sy’n ymwneud ag addysg, datblygu cymunedol, cadwraeth ar ffermydd, rheoli coetiroedd a mynediad at gefn gwlad.

Yn ogystal â bod yn y Parc Cenedlaethol, mae Chwarel Herbertyn rhan o ddaliad tir a berchnogir gan BBNPA. Mae BBNPA wedi ymrwymo i gymorth talu mewn cynnyrch yn ystod oes y prosiect ac i warchod y safle yn barhaus ar ôl cwblhau’r prosiect.

 

Amgueddfa Genedlaethol Cymru - www.museumwales.ac.uk

Mae Amgueddfa Genedlaethol Glannau’r Dwr yn Abertawe yn adrodd hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, yn awr a thros y 300 mlynedd ddiwethaf. Bydd y staff yn Amgueddfa Genedlaethol Glannau’r Dwr yn Abertawe yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd archaeoleg ddiwydiannol i CALCH. Mae hyn yn cynnwys trosolwg o dreftadaeth Ddiwydiannol Cymru a chymorth o ran nodi cysylltiadau â diwydiannau eraill.

 

Canolfan y Mynydd Du - www.brynaman.org.uk

Mae’r Ganolfan, yng nghanol cymuned leol Brynaman, yn cynnig cyfleusterau i’r gymuned ac i ymwelwyr, gan gynnwys safle gwybodaeth i dwristiaid a chaffi, cyfleusterau cynadledda a lle ar gyfer arddangosfeydd, wedi’u lleoli o fewn anheddiad Brynaman Uchaf. Caiff y ganolfan ei hyrwyddo fel porth ymwelwyr i’r safle a bydd yn cynnwys deunydd dehongli wedi’i argraffu a deunydd rhithwir. Bydd hefyd yn helpu i ymgysylltu grwpiau cymunedol lleol a darparwyr twristiaeth â’r prosiect.