Gemau Daearegol

Darganfod ein Treftadaeth Ddiwydiannol

Erbyn heddiw mae Chwarel Herbert yn lle tawel, ond yn y gorffennol byddai'n llawn arogleuon a seiniau diwydiannol a lleisiau pobl.

Mae tystiolaeth ddogfennol yn ymwneud â Chwareli'r Mynydd Du yn brin, ond mae'n dal i fod yn bosibl darganfod sut beth oedd gweithio yn y chwareli o'u cymharu ag ardaloedd eraill.


 

Gweithwyr chwarel yn Chwareli Calchfaen Trefil Tredegar c.1900. Mae delweddau fel hyn o chwarelwyr yn anghyffredin. Nodwch faint o'r dynion sydd â gordd i dorri'r calchfaen sydd wedi'i gloddio'n feintiau hylaw. (Amgueddfa Cymru - National Museum Wales)

 

Bywyd bob dydd

Cafodd yr atgofion canlynol gan Mr Tom Williams o Myddfai, eu chofnodi a'u pasio i ni gan Meurig Jenkins. Maen nhw'n disgrifio gwaith yn y chwareli ddiwedd y 19eg ganrif.

Byddai llawer o dyddynwyr a bythynwyr yn cael cyflogaeth lawn amser yn y chwareli a byddai hyn yn golygu cerdded yn ôl a blaen i'r gwaith bob dydd. Fodd bynnag byddai rhai oedd yn byw ymhellach i ffwrdd yn gorfod cerdded am filltiroedd at y chwarel ar nos Sul yn barod i ddechrau'n gynnar fore Llun a dychwelyd adre yn hwyr y prynhawn Gwener canlynol. Bydden nhw'n mynd â digon o fwyd gyda nhw i bara'r wythnos a byddai hyn yn cynnwys ham a bacwn cartref, wyau, bara, te a llysiau. I baratoi eu bwyd yn y chwarel bydden nhw'n cymryd glo poeth a marwydos o'r odyn i goginio'r bwyd a berwi dwr. Bydden mhw'n cysgodi ac yn cysgu yn y cytiau carreg o gwmpas y chwarel. Mae un gweithiwr yn cofio sut y bydden nhw ambell waith yn berwi digon o gig a llysiau ar nos Sul ac yn ychwanegu llysiau i'r cawl bob dydd. Byddai hwn yn gorfod para'r wythnos iddyn nhw. Ambell dro bydden nhw'n dal cwningen neu ysgyfarnog neu'n potsian pysgodyn o nentydd y mynydd. Moethau prin fyddai'r rhain. Bydden nhw'n gweithio oriau hir yn cadw'r odynau i losgi felly mewn gwirionedd roedd eu bywydau'n cynnwys mynd o'r gwaith i'r gwely ac o'r gwely i'r gwaith a'r unig ymlacio fyddai ambell gêm o ddraffts neu gardiau yng ngolau'r gannwyll yn y cwt cerrig ac edrych ymlaen at nos Wener i ddychwelyd at eu teuluoedd.

 

Chwarel Calchfaen Llwynon, Penderyn, ym 1903. Mae hen ffotograffau o chwareli yn brin. Mae'n debygol fod Chwarel Herbert yn edrych yn ddigon tebyg i hyn ar y pryd. Nodwch nad oes unrhyw beiriannau sefydlog yno o gwbl. (Amgueddfa Cymru - National Museum Wales)

 

Mae llawer o ffermwyr lleol yn cofio mynd at y chwareli i brynu calch pan oedden nhw'n ifanc. Bydden nhw'n gwneud pentyrrau o bump neu chwe thwlpyn o galch dros y cae a'i adael yno tan iddi fwrw glaw. Byddai'r talpiau calch yn adweithio gyda'r dwr glaw, gan hisian a stemio, ehangu o ran maint a thorri lawr yn bowdr. Unwaith y byddai'r adwaith hwn wedi gorffen, byddai modd aredig y calch i mewn. Byddai tunelli o galch yn cael eu gosod ar y caeau yn y modd hwn.

Datblygodd gweithwyr a masnachwyr o Wlad yr Haf a Swydd Dyfnaint oedd yn gweithio yng nghalchfaen arfordirol de Cymru fath o fratiaith a elwid yn Gymraeg cerrig calch er mwyn gallu sgwrsio â'r bobl leol. Daeth hwn yn derm cyffredinol yn ne Cymru am bobl â gafael sigledig ar y Gymraeg.

 

Ambell waith bydd adroddiadau cyfrifiad yn cofnodi galwedigaeth yr unigolyn yn ogystal â'i enw a lle mae'n byw. Dyma gofnod ffermwr a llosgwr calch.

 

Mae'r hen gynllun hwn yn dangos lleoliad chwarel calchfaen ac odyn galch wedi'u prydlesu i John Davies.

 

Mae'r gofeb hon yn coffáu marwolaeth David Davies o Fferm Glynclawdd yng Ngwynfe. Ym 1884, yn 22 oed, lladdwyd David Davies pan ruthrodd ei geffyl a chwympodd dan olwynion ei gert calch.

 

Western Mail  (Cardiff, Wales), Tuesday, March 22, 1870;

FOUND DEAD ON A LIMEKILN -- A mason named John Daley, aged 31, was found quite dead on Saturday morning by Police Constable Molland on one of the limekilns on the east side of the river Usk. The deceased, although a good workman, had for some months past given himself up to laziness and drink, and on the previous day had been at work. It is presumed that the unfortunate man went to the kilns to sleep, and was suffocated. An inquest was held on Saturday evening, when a verdict of "suffocated on a limekiln" was returned.

 

Western Mail  (Cardiff, Wales), Tuesday, February 21, 1882;

A MAN BURNT TO DEATH AT CHEPSTOW

On Monday morning at about seven o'clock two men, named Pask and Stidder, upon going to their work at a limekiln at Mounton, about two miles from Chepstow, discovered the body of a man frightfully burnt upon the top of the kiln. Although the features were very much disfigured and other portions of the body a great deal charred, it was ascertained that the body was that of a man named Samuel Lewis, a labourer, of Mounton who has for some time led a most irregular life. It is conjectured that he went to the limekiln to sleep for the sake of the warmth, and that while sleeping he was suffocated by the fumes, and as the stones on the top of the kiln became calcined and gave way deceased fell with them, as he was found in a reclining position on the stones. An inquest will be held.

 

Western Mail  (Cardiff, Wales), Tuesday, April 3, 1900;

SUFFOCATED IN A LIMEKILN AT NEWPORT

An unknown but much tatoed man, presumably a collier of 30 years of age, was found suffocated in a limekiln on the malpas Road, Newport. He was 5ft 9in. in height, fair, clean shaven and on his right forearm he bore the tatoed representation of two clasped hands, horse-shoes, and a bust of a woman, while on the left forearm was a lady in the Welsh national costume and a star. He was dressed in a black ribbed jacket, moleskin vest, and tweed trousers, and also had a collier's safety-lamp.

 

Mae'r gofeb i David Davies yn ein hatgoffa fod odynau a chwareli calch yn llefydd peryglus i weithio.

Mae papurau newydd y cyfnod yn adrodd am ddamweiniau mewn odynau a chwareli calch. Maen nhw'n cynnwys darlun byw o fywyd bob dydd . a marwolaeth!

 

Twyll Chwarel Calch y Mynydd Du

Ym 1959 cafwyd ymchwiliad gan yr Heddlu Twyll i anghysonderau honedig o ran dosbarthu cynhyrchion calch o Chwareli'r Mynydd Du a'r cymhorthdal oedd yn cael ei dalu i ffermwyr. Yn y 1960au cynnar dechreuodd achos twyll nodedig.

Parhaodd yr achos am 30 o ddiwrnodau dros 3 mis, record am achos yn Sir Gaerfyrddin. Roedd pentyrrau enfawr o ddogfennau'n llenwi'r llys.

Er bod y chwarel wedi'i phrydlesu oddi wrth Ystad Cawdor ym 1954 ceisiodd deiliaid y brydles werthu'r chwareli heb ganiatâd yr ystâd i "Midas Quarries Ltd" oedd wedi'u camarwain i gredu bod cynnyrch y chwarel ddwywaith yr hyn ydoedd mewn gwirionedd. Roedd y perchnogion wedi bod yn gor-ddweud faint o galch roedd y chwarel yn ei gynhyrchu er mwyn hawlio cymhorthdal gan y llywodraeth ar y calch a brynwyd i wella cynhyrchedd amaethyddol.

Dywedwyd pe bai cymaint o galch yn cael ei gynhyrchu ag yr honnwyd, y byddai wedi gallu gorchuddio Sir Gaerfyrddin gyfan â chwe modfedd o galch!

Disgrifiwyd cyflwr y chwarel ar y pryd yn 'affwysol'. Yr unig beth o werth mae'n debyg oedd y bont bwyso. Roedd wyneb y chwarel yn lân ond roedd yn cael ei weithio'n anghywir. Roedd y peiriant malu'n ddyfais dros dro oedd wedi'i gynllunio gan rywun dibrofiad. Roedd dwy odyn yno. Roedd y gyntaf yn un ag aelwyd agored 9tr 6m o led ar y brig, 21tr o uchder gyda siambr oeri 12tr. Pan oedd yn llawn roedd yn dal 65-70 tunnell. Uchafbwynt cynnyrch y dydd oedd 10-12 o dunelli. Roedd yr ail odyn yn 10tr o led ar y brig a 25tr o uchder. Roedd yn dal hyd at 75-80 o dunelli a'r cynnyrch dyddiol oedd 12 tunnell. Roedd trydedd odyn lai o faint islaw'r chwarel nad oedd wedi'i defnyddio ers 8-10 o flynyddoedd. Uchafswm yr odyn hon oedd 40 o dunelli gan gynhyrchu 8 tunnell bob dydd.