Mae calchfaen a chynhyrchion calch wedi chwarae rhan hanfodol yn y ffordd y mae Cymru wedi datblygu drwy'r canrifoedd. Roedd yn elfen greiddiol yn natblygiad diwydiannau ac amaethyddiaeth Cymru, ac mae wedi dylanwadu ar ddiwyg ein tirweddau gwledig diwydiannol a threfol yn ogystal â'r tai rydym ni'n byw ynddyn nhw!
Yn y gorffennol, oherwydd ei nodweddion cawstig, mae calch brwd wedi'i ddefnyddio i gael gwared â chyrff marw drwy eu hydoddi!
Yn gynnar iawn roedd golau calch yn ffurf o oleuo mewn theatrau. Pan gaiff Calsiwm Ocsid ei wresogi i dymheredd uchel, mae'n cynhyrchu golau llachar iawn.
Gellir defnyddio calch tawdd i wneud cynhyrchion adeiladu fel plaster a morter, pwti a phaent calch.
Drwy wresogi calch gyda thywod silica (SiO2) a sodiwm carbonad (Na2CO3) caiff gwydr ei greu.
Defnyddir calchfaen fel fflwcs wrth gynhyrchu copr a haearn. Pan gaiff mwyn haearn a chalchfaen eu gwresogi, mae'r calchfaen yn adweithio gydag elfennau amhur yn y mwyn i greu sorod, y gellir eu gwahanu oddi wrth y metel tawdd.
Byddai calch hefyd yn cael ei ddefnyddio i wneud sebon.
Calch anhydrolig
Mae calch anhydrolig neu bwti calch yn galch tawdd pur.
Calch Hydrolig
Mae calch hydrolig wedi'i wneud o galchfaen sy'n cynnwys silica a chlai. Mae hyn yn rhoi'r gallu defnyddiol iddo setio'n galed o dan ddwr!