Gemau Daearegol

Ffyrdd a Therfysgoedd

Gan fod y calch o'r rhan hon o'r Mynydd Du yn cael ei gludo gan geffyl a chert, mae'r diwydiant calch wedi cael dylanwad enfawr ar y ffordd y datblygodd y rhwydwaith ffyrdd dros y canrifoedd.

 

 

Ffyrdd

Yn y ddeunawfed ganrif doedd cynhyrchu diwydiannol ddim wedi dechrau ar ochr ddeheuol y mynydd. Fodd bynnag ar yr ochr ogleddol, roedd newidiadau mawr ar droed mewn amaethyddiaeth i gynyddu cynhyrchedd ac effeithlonrwydd. Roedd rhan bwysig gan galch i'w chwarae yn y 'chwyldro amaethyddol' hwn oherwydd roedd yn cael ei ddefnyddio i wella'r pridd a dod â thir newydd i amaeth a fyddai'n cynyddu'r cnydau a gâi eu cynhyrchu. Tyfodd y diwydiant calch yn gyflym i gyflenwi'r galw am galch gan ffermwyr.

Roedd yn anodd cludo calch ar yr hen ffyrdd, felly ffurfiwyd 'cwmnïau tyrpeg' i godi arian i adeiladu ffyrdd newydd a'u cynnal. Drwy edrych ar hen fapiau a dogfennau gallwn weld sut mae'r diwydiant calch ar y Mynydd Du wedi dylanwadu ar ddatblygiad y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal.


© Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Awdurdod Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2012 Arolwg Ordnans 100019322

Enw'r ffordd gynharaf ar draws y mynydd oedd 'Ffordd y Bryn' (wedi'i marcio mewn glas) ac fe'i gelwir heddiw weithiau yn 'Ffordd Rufeinig'. Ym 1779 ffurfiwyd Cwmni Tyrpeg Llangadog. Atgyweiriwyd y ffordd mor bell ag odynau calch Brest Cwm Lloyd. Y llwybrau pinc yw'r hen lwybrau at y chwareli.

Wrth i'r cloddio symud i'r dwyrain ar hyd brig y mynydd , adeiladodd y Cwmni Tyrpeg ffordd newydd (wedi'i marcio'n wyrdd). Erbyn 1819 roedd yr hen lwybr ar draws y mynydd wedi'i adael ac adeiladwyd ffordd newydd (yr A4069 erbyn heddiw - wedi'i marcio'n goch).

 

 

Mae'r ffotograffau hyn o'r 1900au cynnar yn dangos certwyr yn cludo mwyn plwm yng Ngheredigion; golygfa y gellid ei chymharu â chludo calch o chwareli Mynydd Du Bannau Brycheiniog. (Amgueddfa Cymru - National Museum Wales)

 

 

 

 

Adeiladwyd tollbyrth mewn amryw o leoliadau i godi ffi ar y certiau calch am ddefnyddio'r ffyrdd. Byddai ffermwyr yn aros gyda'u certiau ger y tollbyrth yn gynnar yn y bore i geisio lleihau'r costau drwy gwblhau eu taith mewn un diwrnod.

Cofnodwyd hanes lliwgar taith o'r fath ddiwedd y 19eg ganrif gan W Llywelyn Williams yn ei gyfrol 'Slawer Dydd'. Dyma grynodeb o'r daith honno:

'Wil y Waginer'

Er mwyn cyrraedd yr odynau erbyn iddi wawrio ddydd Llun, roedd rhaid i Wil gychwyn ar ôl hanner nos er mwyn peidio â thorri'r Saboth. I arbed amser byddai'n harneisio pedwar ceffyl i'w wagen bedair olwyn cyn nos Sul. I baratoi at y daith roedd Wil wedi bod yn dwyn ceirch i'w rhoi i'r ceffylau i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o egni at y ras. Roedd y wagen oedd wedi'i pheintio'n goch, gwyn a glas, a'r ceffylau â phlethi yn eu myngau a'u cynffonnau, yn edrych yn ysblennydd wrth gychwyn fel mellt am hanner nos.

Wrth aros yn ddiamynedd yn Abermarlais i'r hen wr agor y tollborth, clywodd Wil fod wagenni o Gwmbrân a Glandulais wedi pasio drwodd ddeng munud ynghynt. Felly cyn gynted ag y talodd y doll a derbyn y pas, rasiodd Wil ei gert ar wib nes bod y ddaear yn crynu wrth iddyn nhw garlamu drwy Langadog. Roedd yn wyrth na chafwyd unrhyw ddamweiniau wrth i Wil rasio yn y tywyllwch drwy Gwm Sawdde, i geisio goddiweddyd ei gydweithwyr ar y ffyrdd cul. Ond wrth i'r ffordd ddechrau codi ar lethrau'r Mynydd Du llwyddodd Wil i basio wagenni Cwmbrân a Glandulais, a hanner dwsin o rai eraill, gan sicrhau mai ei wagen ef oedd y gyntaf i gyrraedd yr odynau gyda'r wawr!

Terfysgoedd

Gallai ffermwyr ddefnyddio cymaint â phedair tunnell o galch ar erw o dir mewn blwyddyn. Roedd rhaid i ffermwyr nad oedd yn gallu cael gafael ar galch yn rhwydd deithio'n bell i'w gael. Cafodd calch o'r Mynydd du ei gludo mor bell ag Aberaeron ar arfordir Ceredigion, sef taith o ddau neu dri diwrnod.

Roedd y system tyrpeg yn gosod tollau ar wagenni calch. Yn ogystal â'r tollbyrth ar y prif ffyrdd tyrpeg, gosodwyd "rhwystrau ochr" ar ffyrdd llai i ddal unrhyw draffig a oedd yn ceisio osgoi'r prif lwybrau. Roedd y tollau ychwanegol hyn yn ei wneud yn ddrud iawn i ffermwyr gludo calch i wrteithio eu caeau.

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd cymunedau amaethyddol yn dioddef o dywydd garw a chynaeafau gwael a gwerthoedd marchnad cyfnewidiol ar gyfer cynnyrch amaethyddol. Er gwaethaf eu hincymau is, cododd trethi a thollau gan ei wneud yn anodd buddsoddi mewn gwelliannau i geisio cynyddu cynhyrchion amaethyddol. (http://en.wikipedia.org/wiki/Rebecca_Riots - cite_note-Howell_114-2)

Ynghyd â'u gofidiau eraill, y tollau hyn oedd un o'r prif achosion a arweiniodd at Derfysgoedd Beca yn ne a chanolbarth Cymru rhwng 1839 a 1843. Roedd ffermwyr blin yn gwisgo fel menywod ac yn gweithredu'n uniongyrchol drwy ddinistrio'r tollbyrth.

 

Fe'u galwyd yn Rebecca a'i chyfeillion. Ceir adroddiadau am 'gyfarfodydd dirgel yn y nos yn y bryniau o gwmpas Llangadog' a chafwyd sawl ymosodiad ar dollbyrth ar y ffyrdd yn arwain at Chwareli'r Mynydd Du.