Ymweld a'r Safle

Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am Chwareli y Mynydd Du, does dim ffordd gwell na mynd am dro o amgylch y safle a gweld am eich hun. Pam nad ewch i fyny at y Mynydd Du ar ddiwrnod braf, cymryd picnic a crwydro o gwmpas?

 

Gall ymwelwyr â Chwareli'r Mynydd Du fwynhau golygfeydd panoramig syfrdanol o'r chwareli ac fe allan nhw ddarganfod hanes diddorol y diwydiant calch hwn, a oedd yn ffynnu ar un adeg. Gan ddechrau o un o'r ddau faes parcio ar y safle, bydd taith wedi'i chyfeirio yn mynd â chi ar hyd llwybrau glaswelltog a thraciau caregog drwy dirwedd o chwareli a gweddillion sawl odyn galch sy'n ymestyn yn ôl 200 o flynyddoedd. Mae'r chwareli'n gartref i sawl rhywogaeth o blanhigion sy'n ffynnu yn yr amgylchedd galchfaen a'r amodau alcalïaidd uchel a grëwyd gan weddillion y diwydiant calch.

Mae'r trywydd yn gyffredinol hawdd, ond gyda rhai rhannau byr mwy serth. Ar ben y safle hwn fe welwch fyrddau dehongli yn disgrifio hanes a daeareg y chwareli. Bydd trywydd sain deialu neu i'w lwytho i lawr yn sôn am y gorffennol wrth i gymeriadau ddweud hanes eu bywydau yn gweithio yn y chwareli.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd yn berchen ar y chwareli ac fe'u lleolir ar dir mynediad agored. Byddwch yn ymwybodol fod y tir yn gynefin i fywyd gwyllt ac fe'i defnyddir fel porfa i anifeiliaid hefyd. Er mwyn amddiffyn adar sy'n nythu a defaid ac wyn, dylid cadw cwn ar dennyn pryd bynnag mae da byw gerllaw, a bob amser rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf.

 

Cyfeirnod grid OS

OS Landranger 160, map Explorer OL12 – SN733187

 

Sut i fynd yno

Gellir cyrraedd Chwareli'r Mynydd Du gyda char neu feic o'r A4069 rhwng Brynaman a Llangadog. Mae'r safle hefyd yn agos at lwybr Ffordd y Bannau oddeutu hanner ffordd rhwng Hostel Ieuenctid Llanddeusant a Charreg Cennen (www.breconbeaconsparksociety.org/national-park/the-beacons-way). Mae'r orsaf drên agosaf yn Llangadog, ar Reilffordd Calon Cymru (rhyw 10 milltir o'r safle). Am yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio ac amserlenni, ewch i  www.traveline-cymru.info neu ffoniwch 0871 200 2233.

Tref neu bentref agosaf

Mae Brynaman rhyw 4 milltir i'r de ar yr A4069. Mae Llangadog rhyw 10 milltir i'r gogledd ar yr A4069. Mae siopau a thafarndai yn y ddau bentref.

Parcio

Mae dau faes parcio mawr am ddim ar gyfer mynd am dro byr o gwmpas y chwareli.

Hygyrchedd

Mae llwybr wedi ei gyfeirio o amgylch y safle. Dilyna'r llwybr draciau a llwybr sy'n bodoli'n barod. Mae ychydig o'r ddaear hon yn laswelltir garw a thir caregog. Gall y glaswellt a'r creigiau agored fod yn llithrig pan fydd hi'n wlyb. Mae tomennydd gwastraff a llethrau sgri yn ansefydlog dan draed, a ni ddylid eu dringo.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd berchen ar y chwareli, ac fe'u lleolir ar dir mynediad agored. Byddwch yn ymwybodol fod y tir yn gynefin i fywyd gwyllt ac fe'i defnyddir fel porfa i anifeiliaid. Er mwyn amddiffyn adar sy'n nythu a defaid ac wyn, dylid cadw cwn ar dennyn pryd bynnag mae da byw gerllaw, a bob amser rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf.

Gall tywydd ar y Mynydd Du fod yn arw ac anwadal. Paratowch eich hunan. Gwiriwch y rhagolygon tywydd ac ewch â dillad addas a dillad glaw gyda chi. Mae signal ffôn lIawn drwy'r safle er na fydd cysylltiad data llawn fodd bynnag.

Cadwch yn ddiogel tra'r ydych yn cerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy ddarllen y canllawiad yma.


Llwybr sain

Gallwch wrando ar y llwybr sain drwy ddefnyddio eich ffôn symudol a dilyn y cyfarwyddiadau: Ffoniwch 01269 333123 (Cymraeg) neu 01269 333123 (Saesneg)

Os ydych chi'n gallu cysylltu a'r rhyngrwyd tra eich bod ar y llwybr, gallwch wrando ar y ffeiliau sain isod neu fel arall lawrlwythwch y ffolder Zip sy'n cynnwys pob un o'r deg ffeil sain cyn i chi gychwyn er mwyn i chi allu gwrando arnyn nhw heb band eang tra ar y daith gerdded.

 

Pwynt Sain

Enw'r Ffeil Sain

Maes Parcio

Cyflwyniad

1

Trysorau Daearegol

2

Diwedd y Cyfnod

3

Trawsnewid Calch

4

Y Tir a Calch

5

Gwrthrhyfel a Rebecca

6

Menyn a Chig Moch

7

Hanes y Certiwr

8

Calch a Bobl Lleol

9

Perygl Parhaol

 

Cliciwch yma i lawrlwytho Ffolder Zip gyda'r holl ffeiliau sain.

 

 

 

Canllaw Llwybr

Mae taflenni arwain a llyfrynnau ar gael yng nghanolfannau gwybodaeth Bannau Brycheiniog neu gellir eu cael gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed neu yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman.

Cliciwch yma i lwytho PDF i lawr o daflen y llwybr.

 

Cliciwch yma i lwytho PDF i lawr o lyfryn am Chwareli'r Mynydd Du

Arddangosfa

Mae arddangosfa amlgyfrwng a rhagor o wybodaeth am y chwareli ar gael yng Nghanolfan y Mynydd Du, sy'n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9 a 2. Edrychwch ar y wefan ( www.brynaman.org.uk ) am ragor o fanylion.