Traeth y Borth, Ceredigion – fforest a foddwyd i’w gweld ar lanw isel. (Llun Nigel Nayling)

 

Heddiw, mae newid hinsawdd a chynhesu bydeang yn bynciau trafod llosg, ond bu dynion eraill, ein hen gyndadau, yn dyst i ganlyniadau dramatig y fath newidiadau yn eu hamgylchedd. Gwyddom fod pedair Oes Ia wedi digwydd yn ystod y cyfnod Paleolithig, tua 800,000 – 12,000 o flynyddoedd yn ôl, gyda chyfnodau cynhesach rhyngddyn nhw. Yn ystod yr Oes Ia ddiwethaf, parodd y tymheredd isel a’r llenni ia eang iddi fod yn amhosib byw mewn rhannau helaeth o ogledd Ewrop. Wrth i’r tymheredd godi a’r rhewlifoedd ddadmer, ar ddechrau yr hyn a elwir yn Gyfnod Holosen neu’r Cyfnod Ia Diweddar, 12,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd yn gyfle i bobl Fesolithig, yr helwyr a lloffwyr, ledu i’r gogledd a’r gorllewin. Ond wrth i’r dwr doddi yn y rhewlifoedd, cododd lefelau’r môr, gan beri, dros amser, i’r tiroedd bas, breision yr oedd yr helwyr a’r lloffwyr yn hoff ohono, foddi, gan droi coedwigoedd yn forfa a gwthio’r arfordir yn ôl i gyfeiriad y tiroedd uwch. Weithiau’n broses araf a llechwraidd, weithiau’n syndod o gyflym, digwyddodd diflaniad y tiroedd cyfarwydd hyn o fewn cof cenhedlaeth neu ddwy.

Bellach, gellir ymweld unwaith eto â rhai o’r tiroedd coll hyn oddi ar arfordir Prydain gyfoes o ganlyniad i waith arloesol gan Brifysgol Birmingham. Maen nhw wedi defnyddio arolygon adlewyrchol seismig a ddatblygwyd gan gwmnïau masnachol i fapio tirwedd gwely’r môr. Ar ôl ail ddarganfod Doggerland, o dan donnau Môr y Gogledd, astudiwyd tirweddau sydd bellach o dan Fôr Hafren a Bae Lerpwl, gan ymestyn ein gwybodaeth am Gymru yn y cyfnod cynhanesyddol.

 

Adroddiad technegol Prifysgol Birmingham 'West Coast Palaeolandscapes Survey' mewn ffurf PDF
(Saesneg yn unig , yn agored mewn ffenestr newydd - maint y ffeil 5.4Mb)

English