Y Nab Head, Sir Benfro
Dangosodd cloddio archeolegol fod pobl Fesolithig yn byw ar benrhyn y
Nab Head ar arfordir de-orllewin Sir Benfro tua 10,500 o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny,
byddai’r safle hwn rhyw 6km o’r arfordir, gan wneud y safle yn un gwledig, gyda
golygfeydd da dros wastatir yr arfordir. Ni chafwyd hyd i dystiolaeth o annedd parhaol,
ond cafwyd hyd i filoedd lawer o offer cerrig gan gynnwys microlithau, pennau drilio, offer
crafu ar gyfer glanhau crwyn ynghyd â thomenni o wastraff fflint o ganlyniad i greu’r
offer i gyd. O ddiddordeb arbennig y mae mwy na 700 o gleiniau siâl â thwll
ynddyn nhw, ymhlith offer a sbwriel y gymuned a weithiai ar y Nab Head. Er bod gleiniau
fel hyn i’w gweld mewn safleoedd sy’n dyddio’n fras o’r un adeg
ym Mhrydain, gosodir y safle hwn ar wahân oherwydd y nifer fawr o gleiniau sydd yma.
Mae’n debyg fod y gleiniau yn symbolau o statws neu hyd yn oed yn cael eu masnachu
rhwng grwpiau Mesolithig. Roedd pobl yn dal i weithio cerrig a fflint ar y penrhyn hyd at
y cyfnod Mesolithig diweddar.
Cloddfeyd archeolegol y Nab Head 1980
(Llun Andrew David)
|