Archeoleg ar eich Stepen Drws

Rydym yn cadw cofnodion dros saith deg mil o safleoedd archaeolegol yn ne-orllewin Cymru. Cofnodion digidol yw’r rhain sydd ar gael i’r cyhoedd drwy wefan Archwilio www.archwilio.org.uk

Oherwydd y nifer fawr o gofnodion, mae bron yn amhosibl inni gadw golwg ar unrhyw newidiadau a allai effeithio ar safleoedd; er enghraifft, efallai megis gwerthu swyddfa bost y pentref a’i throi’n annedd, neu fod maen hir wedi cael ei symud neu ei ddifrodi. Rydym yn dibynnu ar aelodau o’r cymunedau lleol ac eraill i’n rhybuddio am newidiadau i safleoedd hysbys ac i ddweud wrthym am safleoedd na chwasant eu cofnodi. Felly, os oes gennych ddiddordeb yn eich treftadaeth leol, rydym eisiau clywed gennych.

Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn cysylltwch â Jenna Smith– j.smith@dyfedarchaeology.org.uk

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru