Nod Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yw cynnwys pwnc a chyfnod yr holl archaeoleg ddaearol a morwrol yn y rhanbarth. Mae digonedd o safleoedd, darganfyddiadau a nodweddion tirwedd newydd heb eu darganfod o hyd, ac rydym yn gweithio’n barhaus i lenwi’r bylchau hyn wrth i dystiolaeth a gwybodaeth newydd ddod i law. Rydym yn cydweithio â gweithwyr treftadaeth proffesiynol eraill, ymchwilwyr, sefydliadau, cymunedau a’r cyhoedd i gyflawni hyn. Nod y CAH yw casglu, trefnu a darparu mynediad at y darlun mwyaf cyfredol; disgwylir gwelliant a mwyhad!
Pan gafodd y cofnod ei greu, defnyddiwyd cardiau cofnodi a mapiau papur i lunio mynegai o’r safleoedd a’r darganfyddiadau ar draws y rhanbarth. Ategwyd y mynegai gan lawer o wahanol fathau o ddeunydd ffisegol, fel mapiau hanesyddol, awyrluniau, llyfrau archaeolegol, newyddiaduron ac adroddiadau cloddio. Roedd y cofnod hefyd yn cynnwys gwybodaeth wreiddiol o ffynonellau llai ffurfiol, fel llythyrau gan unigolion preifat a thoriadau papur newydd. Mae’r wybodaeth hon wedi’i dadansoddi’n systematig a’i churadu i greu darlun o archaeoleg a threftadaeth Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae’r CAH yn defnyddio’r ffynonellau hyn o hyd. Gyda thechnoleg a dulliau cyfathrebu gwell, mae ystod y ffynonellau a’r mynediad atynt wedi ehangu. Mae’r “mynegai” wedi dod yn gronfa ddata a system mapio gyfrifiadurol (GIS) gyfrifiadurol gymhleth. Ni sy’n cadw ac yn gofalu am rai o’r ffynonellau hyn, ond nid pob un ohonynt. Ceir dolenni yn y CAH i sefydliadau eraill sy’n cadw ffynonellau, fel Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Mae’r CAH yn offeryn cymhleth, sy’n aml yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil breifat, fasnachol a phersonol; mae gormod o ffynonellau a safleoedd i’w disgrifio yma. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith neu os gallwn helpu ag unrhyw ymholiad sydd gennych. Nid oes rhaid i chi fod yn gwneud gwaith ymchwil; efallai bod gennych ddiddordeb yn nhreftadaeth ac archaeoleg lle’r ydych yn byw, neu gwestiwn amdanynt.
Cliciwch yma i weld Polisïau’r CAH.