Dyddiadur Cloddio 2019 – Caer Bentir Arfordirol Porth-y-Rhaw

Mae’r gaer bentir yn cael ei herydu’n ac yn 2019 nod y cloddiad yw adennill cymaint o wybodaeth sydd yn bosibl o fynedfa’r gaer cyn iddi gael ei cholli i’r môr, neu cyn i’r gwaith cloddio fynd yn rhy beryglus. Mae’r prosiect hwn yn cael ei noddio gan Cadw ac mae’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen y safle.

Tynnwyd y lluniau o’r awyr gan Toby Driver o’r CBHC ar 15 Gorffennaf fel rhan o brosiect Cherish.

https://www.facebook.com/CherishProject/
http://www.cherishproject.eu/en/

 

Diwrnodau 1 and 2 – Gorfennaf 1 a 2

Ar y ddau ddiwrnod cyntaf o’r gwaith cloddio mae pawb yn gweithio’n galed iawn i gael gwared o’r y tyweirch trwchus sy’n gorchuddio’r safle, tu fewn ardal mynedfa’r fryngaer. Yn ffodus mae’r ddau ddiwrnod yn heulog, er bod awel gryf yn chwythu ar draws y safle drwy’r amser.

 

 

Cael gwared o’r tywyrch sydd dros y fynedfa; yn edrych tuag at y fynedfa o tu allan i’r fryngaer

 


Y ffos ar ddiwedd y ddau ddiwrnod – wedi’i lanhau ac yn barod i’w chloddio; yn edrych tuag at y fynedfa o tu fewn i’r fryngaer


Yr olygfa ryfeddol o ben deheuol y ffos yn edrych i’r de-orllewin

Diwrnodau 3 i 5 – Gorffennaf 3 hyd 5

Mae’r tywydd yn parhau if fod yn dwym ac yn heulog.


Golygfeydd o fryngaer Porth y Rhaw o’r gogledd yn dangos y ffos gloddio sy’n torri drwy’r clawdd amddiffynnol mewnol tu fewn mynedfa’r gaer.

 

 

 


Mae gwaith yn mynd ynlaen o gael gwared o’r haen o glai siltiog a oedd yn gorwedd ar draws rhan fwyaf o’r ffos. Ar un adeg mae pedwar ar ddeg ohonom yn trowelio yn y ffos – rydym i gyd bron yn ffitio i mewn.

 

Erbyn diwedd dydd 5 rydym yn dechrau gweld nifer y cerrig syrthiedig a oedd un tro yn rhan o’r banciau amddiffynnol.

 


Daeth y BBC i’n ffilmio ar gyfer y rhaglen ‘Weatherman Walking’ a fydd yn cael ei ddarlledu ym mis Ionawr 2020.

 

 

Diwrnodau 6 a 7 – Gorffennaf 6 a 7

Mae’r tywydd yn dal i fod yn dda a rydym yn parhau i gael gwared o’r dyddodion o gerrig a phridd sydd wedi erydu o’r banciau amddiffynnol naill ochr i’r fynedfa.

 


Bu Jeremy, Hayley, Rick, Josie a Joan yn gweithio ar ben gogleddol y fynedfa a fe ddatgelwyd cerrig o’r wal gynnal sydd wedi cwmpo i mewn i ardal y fynedfa.

Fe wnaeth Rosie, Geraint a Joan d datgelu clogfaen mawr ym mhen gogleddol y safle. Rydym yn credu ei fod yn rhan o wyneb cynnal y banc gorllewinol yn yr ardal hon.

 


Hubert yn trowelio ar hyd gwaelod goroesol y banc dwyreiniol sy’n ymddangos allan o’r cerrig syrthiol.

 


Hubert, Rob a Rick yn gweithio yn y ffos a agorwyd tu fewn ardal fewnol y banc amddiffynnol.

 


Peter ac Aled yn cynhyrchu cynllun o’r safle.

 


Will yn helpu gyda arolwg y safle. Mae Will ac Aled wedi bod yn gwirfoddoli fel rhan o’u Gwobr Aur Dug Caeredin yn ystod yr wythnos gyntaf. Llawer o ddiolch iddynt am eu gwaith caled.

 

Diwrnodau 9 a 10 – Gorffennaf 9 a 10

Ysgrifennwyd gan Hubert Wilson


Bore diwrnod 9 ac mae mynedfa’r gaer yn barod i groeso ein grŵp hapus o wirfoddolwyr.

 


Kim a Mike yn trowelio tu fewn y fyndefa ac yn datgelu gwyneb coblog.

 


Edrych lawr drwy’r fynedfa ar ddiwedd Dydd 10 gyda’r wyneb goblog yn y blaendir; yn dangos pa mor ddwfn oedd y dyddodion roedd rhaid cael gwared ohonnynt.

 


Joan a Peter yn gweithio ar lethrau’r clawdd mewnol. Mae’n bosib fod y wal gerrig i’r chwith o Peter yn gysylltiedig â’r clawdd mewnol neu yn bosibl ty crwn wedi’i adeiladu i mewn i’r banc.

 


Dydd 10 a datgelwyd mwy o’r wal yn y clawdd mewnol tra bod Jude yn trowelio ochr arall y banc. Yn ogystal â chrochenwaith Rhufeinig-Prydeinig darganfu Jude ddarn bach o grwsibl yn ôl pob tebyg wedi cael ei ddefnyddio mewn gwaith metel.

 


Darganfuwyd y darn hwn o garreg felin yn y ty crwn posibl. Fe’i defnyddiwyd i falu grawnfwydydd ac i gynhyrchu blawd.

 

Diwrnodau 11 i 13 – Gorffennaf 11 hyd 13

Mae gwaith yn parhau o gael gwared yr holl gerrig a phridd sydd wedi disgyn o’r banciau amddiffynnol dros y blynyddoedd i mewn i fynedfa’r fryngaer. Cofnodir y nodweddion yr ydym wedi’u nodi yn ardal fewnol y fynedfa.

 


Symud clogfaen enfawr o fynedfa’r fryngaer.

 


Mae pawb yn gweithio ar glirio cerrig a phridd o tu fewn y fynedfa. Edrych oddeutu i’r gogledd.

 


Mynedfa’r fryngaer ar ddiwedd diwrnod 13.

 


Twll post gyda cerrig llenwi yn dal yn eu lle; un o nifer o dyllau pyst tu fewn y fynedfa.

 


Wal gron y strwythur a adeiladwyd tu fewn i’r clawdd amddiffynnol. A allai hyn fod yn weddillion tŷ crwn neu dŷ gwarchodwyr?

 


Joan yn cloddio ffos trwy ben deheuol y banc amddiffynnol gorllewinol. Tu ôl iddi mae Rob mae llunio’r wal gron.

 


Rob yn llunio’r wal gron.

 


Y pethau rydym yn eu gwneud i geisio darparu cysgod ar gyfer tynnu llun!

 

Diwrnodau 14 i 16 – Gorffennaf 14 hyd 16

 


Mae’n fore hyfryd arall ac mae ein safle, sydd wedi’i leoli’n uchel ar ben y glogwyn, yn aros am ddyfodiad ein band dewr o wirfoddolwyr.

 


Gallem fod ar ynys yng Nhroeg ond dyma ein golygfa yn edrych tua’r dwyrain.

 


Mae llawer o ddyddiau o waith caled yn talu allan o’r diwedd pan ddatgelir y waliau ategol naill ochr i’ fynedfa y fryngaer. Mae’r waliau hyn yn cynrychioli ymddangosiad olaf mynedfa’r fryngaer cyn iddi gael ei gadael dros 1,500 o flynyddoedd yn ôl.

 


Dyma lun agos o’r ymddangosiad olaf o’r wal ategol gorllewin a adeiladwyd yn erbyn wal gynharach i leihau lled y fynedfa.

 


Twll post mawr wedi ei gloddio a oedd yn ôl pob tebyg yn dal un o’r pyst gât tu fewn mynedfa’r fryngaer.

 


Rydym yn agosau at ddiwedd y gwaith cloddio a mae pawb yn brysur yn llunio adrannau’r cloddiad.

 


Mae’n fwrlwm o weithgarwch rhwng muriau’r fynedfa. Mae un person yn mesur tra bod un arall yn llunio.

 


Mae Bethan ac Eva yn cymryd sbel o lunio’r adran hon.

 

Diwrnodau 17 i 19 – Gorffennaf 17 hyd 19

Diwrnod 17 – mae ffos gul a gloddiwyd drwy’r banc gorllewinol yn datgelu yn y pen draw wyneb y tir cafodd y banc ei adeiladu arno. Yn gyffrous, mae dystiolaeth o weithgarwch cyn y banc gael ei adeiladu ac mae nifer o naddion fflint wedi’u hadennill o dan y banc. Yn anffodus rydym yn rhedeg allan o amser felly mae’n rhaid i’r cloddio stopio ac rydym yn canolbwyntio ar orffen y recordio.

 


Mae Rob a Jude yn gorffen cloddio’r ffos a dorrwyd drwy’r banc gorllewinol, tra bod Hayley a Pete yn gweithio allan pa daflen gyd-destun y dylent fod yn llenwi allan.

 


Simon a Karl yn ridyllu am fflintiau.

 


Simon a Hubert yn cynllunio safle’r ddau dwll post rydym yn credu oedd yn dal y pyst gatiau yn ystod adeg olaf y fynedfa.

 


Y ddau dwll ar gyfer pyst gat y mynediad.

 


Bethan yn cael trafferth gyda’r gwynt wrth lenwi cofnod y lluniau.

 


Pennau lawr wrth lanhau’r safle ar gyfer ffotograffau.

 


Y fynedfa os byddech yn agosau at y gaer bentir.

 



Yr olygfa os byddech yn gadael y gaer.

 

Diwrnod 18 – yr hwyl o ôl-lenwi! Yn ffodus, mae’n ddiwrnod braf arall.

 


I ddechrau gosodir croen sy’n gadael dŵr i fewn ac yna y mwyafrif o’r cerrig.

 


Ac yna mae’r holl bridd a symudwyd mor ofalus yn cael ei ddychwelyd i’r ffos.

 


Yn agos at ddiwedd y dydd mae rhan fwyaf o’r pridd wedi cael ei ddychwelyd i’r ffos.

 

Diwrnod 19 – Yn anffodus nid yw’n ddiwrnod mor braf. Mae’r gwynt yn chwythu ac mae’n bwrw glaw yn drwm, ond mae pawb yn stociog iawn ac eisiau gweld yr ôl-lenwi yn cael ei gwblhau.

 


Gweithio mewn cwmwl isel – does ddim llawer o olygfa heddiw.

 


Josh, Jude a Joan yn gosod y tyweirch – dim ond bobl sydd a enw yn decharu gyda’r lythyren ‘J’ sydd yn gallu gwneud y gwaith hyn!

 


Mae Hubert, Rick a Geraint yn gwasgaru’r pridd olaf yn y ffos.

 


Golygfa o’r fynedfa yn awr wedi’i llenwi a’r tyweirch i gyd wedi cael eu ail-gosod.

 


Golwg bell o’r ffos ôl-lenwi; wrth i ni grwydro yn ôl i’r ceir.

 


Rhan fwyaf o’r tîm ar ddiwedd y dydd – yn wlyb ac yn fwdlyd ond yn hapus ar waith wedi’i wneud yn dda.

 

Llawer o ddiolch wrth Fran a Hubert (YAD) i’r holl wirfoddolwyr a gymerodd ran yn y gwaith cloddio. Roedd yn bleser i weithio gyda chi ac fel arfer roeddem yn rhyfeddu at eich gwaith caled ac ymroddiad pawb ohonoch. Mae’r canlyniadau wedi bod yn wych a gobeithio y cawn gyfle i ddychwelyd blwyddyn nesaf. Bydd adroddiad dros-dro yn cael ei gynhyrchu ar waith eleni; a bydd hwn ar wefan YAD wedi iddo gael ei gwblhau.

Diolch i Cadw a ariannodd y prosiect; partner y prosiect yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen y safle a’u tenant Ian; a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Diolch yn arbennig i Menna Bell (Archaeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol [De Cymru]) am roi teithiau o’r safle mor fedrus ar y penwythnosau. Fe wnaethon ni dy golli yn ystod yr wythnos, er bod Hayley yn aros mewn yn dda iawn!

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru