Yn ystod y 18fed ganrif daeth baddonau oer, a oedd yn amrywio o adeiladau sylweddol i byllau plymio agored syml, yn nodwedd anhepgor i berchnogion ystadau mawr. Nid oedd Ystâd Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin yn eithriad. Nodwyd safle baddon oer Dinefwr ar Fapiau Ordnans y 19eg ganrif ac mae’r ffynnon a’i bwydodd yn dal i ffrydio, ond nid oes sôn am y baddon oer. Pan gawsom gomisiwn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i archwilio’r safle roedd gennym rai amheuon ynghylch yr hyn a oedd wedi goroesi o dan y ddaear. Er syndod i ni, datguddiwyd sylfeini’r hyn a oedd, fwy na thebyg, yn adeilad bach ond urddasol, a hynny ar unwaith bron, o amgylch pwll plymio o ryw ychydig o fetrau sgwâr. Ni welwyd ond pen y dyddodion archeolegol ac felly ni chafwyd tystiolaeth ar gyfer dyddio. Ar ôl diwrnod agored llwyddiannus, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ail-orchuddiwyd y gweddillion.
Adroddiad mewn ffurf Adobe Acrobat, yn Saesneg – yn agored mewn ffenetsr newydd