Gwella Cofrestri: Safleoedd Cynhanesyddol a Rhufeinig Llai

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae ein gwybodaeth o brif gategorïau safleoedd wedi elwa o brosiectau arolwg sy’n gysylltiedig â bygythiad. Fodd bynnag, mae sawl categori y tu allan i’r prosiectau hyn, ac er eu bod yn bwysig ar eu pennau eu hunain, at ei gilydd mae nifer y safleoedd yn rhy fach i gyfiawnhau eu hasesu’n unigol.

Fe ymgymerwyd nifer o brosiectau yn ystod 2008-09 yn cynnwys : Safleon Cyn-hanesyddol – Sir Gaerfyrddin; Safleon Di-filwrol Rhufeining Dyfed; a Safleon Amddiffynol Canoloesol Llai. Fe ymwelwyd a safleon dewisol ym mhob prosiect. Fe ychwanegwyd y data a gasclwyd yn ystod yr ymweliadau i Cofrestr Amgylchyddol Hanesyddol Dyfed a pharatoiwyd adroddiadau. Mae’r gwaith wedi dangos fod dim ond nifer bach iawn o safleon Rhufeining a Chyn-hanesyddol sydd a phwysigrwydd cenedlaethol heb eu asesu yn Ne-orllewin Cymru. Wedi dweud hyn, mae sawl safle wedi eu argymellu am gofrestriad. Mae copiau o’r adroddion i’w cael i is-lwytho isod.

Yn ystod 2009-10 cafodd y safleoedd cynhanesyddol llai yn Sir Benfro a Cheredigion eu hasesu. Ymwelwyd â thros 170 o safleoedd yn Sir Benfro a chawsant eu cofnodi, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain ar Fynydd Preseli. Roedd llawer ohonynt yn safleoedd o ansawdd uchel – cylchoedd cytiau, carnau, a systemau maes – a’r rhain yn dal i fod mewn cyflwr da. Cafodd detholiad o safleoedd eu harolygu’n fanwl. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, dim ond 30 o safleoedd a nodwyd yng Ngheredigion a oedd yn haeddu cael ymweliad safle ac nid oedd y rhan fwyaf o’r rhain o ansawdd uchel. Ceir adroddiadau llawn isod.


Tir caeedig crwn ar Dir Comin Carn Ingli a gofnodwyd yn arolwg 2009-10 Sir Benfro


Gweddillion posibl cwt crwn yng Ngharn Alw, Sir Benfro, 2009-10


Llwyfan ty posibl wedi’i gofnodi yn ystod arolwg Ceredigion 2009-10 yng Nghroes Fawr


Un o’r safleon gorau a gofrestrwyd yn ystod 2008-09 – gwaith pridd amgaedig ger Llanwrda yn Sir Gar


Cofnodi cylch cytiau ar y Mynydd Du

 

 

Prosiect Gwella Cofrestri 2009: Safleon Amddiffynol Canoloesol Llai (yn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).

Prosiect Gwella Cofrestri 2009: Gwaith Maes Safleon Cynhanesyddol – Sir Gar (yn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).

Prosiect Gwella Cofrestri 2009: Safleon Di-Filwrol Rhufeinig Dyfed (yn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).

Prosiect Gwella Cofrestri 2010: Gwaith Maes Safleon Cynanesyddol Ceredigion (2.2Mb mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).

Prosiect Gwella Cofrestri 2010: Gwaith Maes Safleon Cynhanesyddol Sir Benfro (7.6Mb mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).

Prosiect Gwella Cofrestri 2011: Gwaith Maes Safleon Cynhaesyddol Ychwanegol Sir Benfro (2.8Mb mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd).

 

 

Cyswllt: Frances Murphy

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru