Crug Brownslade

Ymgymerwyd â gwerthusiad maes ar Garneddau Brownslade, Castellmartin, yn ystod gwanwyn 2003, a hynny ar y cyd â dadansoddiad osteoarchaeolegol o esgyrn dynol a ddarganfuwyd allan o’u cyd-destun ar y safle yn 2002. Twmpath isel o dywod yw Carneddau Brownslade, a’r gred gyffredinol yw fod ganddo wreiddiau yn Oes yr Efydd. Cafodd ei gloddio yn yr 1880au, pan gafodd nifer fawr o gladdedigaethau ymestynnol eu darganfod yma, rhai mewn beddau neu gistiau cerrig, yn ogystal â chladdedigaeth gynharach sydd efallai’n Frythonig-Rufeinig. Credir mai Cristnogol yw’r claddedigaethau ymestynnol.

Mae’r safle, sy’n Heneb Gofrestredig, dan fygythiad oherwydd moch daear, ac fel gwaith cychwynnol i unrhyw waith i leddfu hyn wnaeth Ystadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn gomisiynu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i ymgymryd ag arolwg topograffig a daearyddol o’r safle yn 2002. Union i’r dwyrain o’r carneddau dynodwyd gwrthglawddiau mynwent bosibl, ac efallai bod y claddedigaethau yn ymestyn i mewn iddynt. Yn ogystal, cofnodwyd olion adeilad bychan o waith maen c.62m i’r gogledd o’r carneddau. O bosib, capel o’r canoloesoedd hwyr ydyw, a nodwyd yn ystod yr 1880au. Yn 2003, cloddiwyd ffos brawf, wedi’i chomisiynu unwaith eto gan Ystadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ym mhen dwyreiniol yr adeilad, a ddangosir yn y ffotograff, ond nid oedd y canlyniadau yn rhai pendant. Ni welwyd unrhyw doriadau ar gyfer beddau, na thystiolaeth o nodweddion litwrgaidd, ac ni chafwyd prawf naill ffordd neu’r llall bod yr adeilad yn gapel canoloesol.

Mae’r casgliad o esgyrn wedi’u cadw’n dda ac o bwysigrwydd cenedlaethol. Roedd o leiaf chwech o unigolion yn bresennol, tair benyw a thri gwryw, yn amrywio o un yn ei arddegau/oedolyn ifanc i oedolion 40 oed a hyn. Ar y cyfan mae’n ymddangos iddynt gynrychioli poblogaeth iach iawn. Rhoddwyd dyddiad radio-carbon i 5 sampl o esgyrn, oddi wrth dri unigolyn. Roedd pob un o’r dyddiadau yn cydweddu gyda’r cyfnod canoloesol cynnar (AD 410-1100). Roedd y dyddiadau radio carbon yn pontio 510 o flynyddoedd, o Cal CC 450 i Cal CC 960, ac o bosib yn cynrychioli claddedigaethau o’r 7fed-8fed ganrif. Serch hynny, roedd yr esgyrn allan o’u cyd-destun gwreiddiol a dim ond sampl bach ydyw. Yn ogystal, nid yw’n hysbys os yw’r esgyrn wedi dod o’r carneddau eu hunain neu o’r fynwent bosib ar yr ochr ddwyreiniol.

Rhaid i’n dehongliad ni o ddatblygiad y safle barhau i fod yn un amwys hyd nes y gellir sefydlu trefn gronolegol i’r claddu, o’r garneddau o gyfnod yr Oes Efydd/Brythonig-Rufeinig, trwodd i’r beddau ôl-Rufeinig ac unrhyw gladdu o fewn yr fynwent bosibl a sefydlu’r capel canoloesol hwyr posib.

Yn ystod haf 2005 comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud cloddfa ar y rhan honno o’r safle a ddifrodwyd gan foch daear. Yn ogystal ag agweddau angladdol y safle, canfuwyd tysiolaeth o amaethyddiaeth yn dyddio’n ôl i’r milemiwm cyntaf CC ar ffurf marciau gan aradr ddi-wadn. Roedd y dystiolaeth hon wedi ei chadw a’i gorchuddio gan dwyni tywod a ffurfiwyd rhwng 200 CC a 500 OC. Roedd beddau’r fynwent ganoloesol gynnar, o’r 6ed hyd at yr 11fed ganrif OC, wedi eu cloddio yn y tywod hwn. Cafodd tua 38 o feddau eu cloddio. Mae’r esgyrn sydd wedi cadw’n dda wedi eu harchwilio gan osteo-archeolegwyr ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan, gan ddangos rhai canlyniadau rhyfeddol. Roedd yr unigolion hynaf a ganfuwyd yn ystod y cloddio siwr o fod yn eu 50au canol pan fuont farw, a’r ieuengaf yn fabanod llai na blwydd oed. Roedd nifer o gyflyrau meddygol i’w gweld ymysg y boblogaeth. Roedd rhai, fel llid y cymalau yn yr unigolion hynaf, i’w disgwyl. Mae eraill yn llawer mwy anarferol; mae addasiadau i’w gweld ar y pelfisau gyda rhai o’r boblogaeth a allai fod yn ganlyniad math arbennig o symudiad ailadroddus ac a fyddai wedi arwain at gerddediad anarferol. Gwelir hyn yn y dynion a’r menywod, ac mae i’w weld yn datblygu yn rhai o’r ieuenctid. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar weddillion yr ysgerbydau.

Roedd y gloddfa yn brosiect cymhleth i’w drefnu, oherwydd presenoldeb y moch daear (rhywogaeth a warchodir), ordnans heb ffrwydro, a’r cyfyngiadau amser a ddaw wrth weithio ar faes tanio byw! Roedd nifer o asiantaethau ac unigolion yn gysylltiedig â’i sefydlu, ac roeddem wrth ein boddau pan enillodd y prosiect y Wobr Seintwar flynyddol a roddir bob blwyddyn i’r prosiect cadwraeth gorau ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Adroddiad Crug Brownslade a Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar ym Mae Gorllwein Eingl (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Cyswllt y project: Ken Murphy

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru