Cloddiad Capel y Groes

Capel y Groes, Swyddffynnon, Ceredigion yw safle capel canoloesol posibl, sef rhan o ganolfan weinyddol cadwyn Mefenydd yn Ystrad Fflur. Archwiliwyd y safle yn 2010 gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.

Roedd y cloddiad yn cynnwys ffos sengl wedi’i lleoli ar safle Capel y Groes, fel y darluniwyd ar fapiau o’r 19eg ganrif. Fe ddatguddiodd olion adeilad wedi’i adeiladu o garreg fortar, a rhan ohono wedi’i adeiladu o goed o bosibl. Roedd darganfyddiadau cysylltiedig yn dyddio’r adeilad rhwng y 17eg a’r 19eg ganrif, gyda’r gweithgarwch mwyaf yn ystod diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Roedd yn ymddangos yn adeilad domestig, ac ni ddarganfuwyd unrhyw olion o’r capel canoloesol.


Golwg cyffredinol o’r cloddiad yng Nghapel y Groes

Adroddiad Capel y Groes (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru