Corsydd Sir Gaerfyrddin

Ffurfiwyd mawnogydd yr iseldir dros filoedd o flynyddoedd ac maen nhw’n enghreifftiau mwyfwy prin o gynefinoedd mawnog pwysig sy’n cynnal bywyd gwyllt sy’n arbenigol ond sydd hefyd dan fygythiad yn aml iawn. Maen nhw’n gynefinoedd rhyfeddol. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â delweddau o’r corsydd helaeth a geir yn ucheldiroedd Prydain ac Iwerddon ond nid pawb sy’n gwybod bod gan Sir Gaerfyrddin rai corsydd pwysig ar lawr gwlad sydd wedi ymffurfio yn ein tirwedd dros filoedd o flynyddoedd. Olion yw’r corsydd o dirwedd hynafol ond erbyn heddiw amaethyddiaeth a choedwigaeth sy’n ben ar y dirwedd.

Yn 2015 derbyniodd partneriaeth dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ymchwilio i rai o’r corsydd hyn a geir yn y sir. Canolbwyntiodd y prosiect ar bum cors ar lawr gwlad ar dir comin yng nghyffiniau Brechfa a Llanfynydd. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Yn ystod eu hanes hir mae mawnogydd wedi cronni’n raddol ac wedi cadw cofnod cudd o’u datblygiad a’r newidiadau a fu yn y dirwedd o’u cwmpas dros filoedd o flynyddoedd. Ar safle Pyllau Cochion ar bwys Horeb astudiodd Prifysgol Abertawe weddillion paill a phlanhigion a gymerwyd o graidd mawn 6m o ddyfnder, mewn cors a ddechreuodd ffurfio ar ôl yr oes iâ ddiwethaf.

Cymerwyd camau i helpu i warchod y cynefinoedd pwysig hyn at y dyfodol drwy greu strimynnau atal tân, cau ffosydd, codi sbwriel, a gwaredu clymog Japan , gan helpu i sicrhau bod y safleoedd yn fwy addas i’w pori ynghyd â’u diogelu rhag tanau bwriadol.

Cydweithiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ag ysgolion lleol er mwyn trefnu ymweliadau â chomin Mynydd Bach i ddysgu am y mawnogydd. Hefyd, buon nhw’n cael golwg ar glwstwr o feddrodau o Oes yr Efydd ac yn dysgu rhagor am y dirwedd gynhanesyddol ac am y bobl a fu’n byw yno.

Am rhagor o wybodaeth am y prosiect gwelwch: http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/cynllunio/bioamrywiaeth/prosiect-corsydd-hlf/#.WucVOn8o9hE

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru