Caerau Pentir Arfordirol – Synhwyro o Bell

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu data Synhwyro ac Archwilio Golau.

Mae caerau pentir arfordirol yn henebion gweladwy dros ben sy’n dioddef erydu cyson gan y môr. Disgwylir i’r erydu hwn waethygu’n sylweddol gyda’r newid yn yr hinsawdd. Hefyd mae’r rhan fwyaf o’r caerau’n gorwedd ar neu ger Llwybr Arfordir Sir Benfro ac o ganlyniad maent yn dioddef lefel isel o erydu gan ymwelwyr. Er hynny, ni fu’n bosibl mesur lleoliadau na chyflymder yr erydu oherwydd diffyg cynlluniau safle modern a disgrifiadau o safleoedd. Mae’r prosiect hwn yn anelu at gywiro hyn trwy sefydlu data gwaelodlin ar gyfer nifer o gaerau yn Sir Benfro trwy ddefnyddio synhwyro o bell wedi’i gefnogi gan wirio cyfyngedig yn y safleoedd. Bydd y fethodoleg yn cynnwys: datblygu delweddu Synhwyro ac Archwilio Golau o’r safleoedd; dadansoddi ffotograffau o’r awyr er mwyn mesur yr hyn a gollwyd tros yr 50 mlynedd diwethaf; rhoi prawf ar berthnasedd geoffiseg yn y fath safleoedd; arolwg topograffig mewn tri safle.

Dewiswyd y safleoedd canlynol ar gyfer eu dadansoddi: Porth y Rhaw, Solfach; Linney Head, Castellmartin; Caer Greenala, Freshwater East; Penmaendewi; Watery Bay ac Ynys Gateholm, Marloes; Rhathlan Black Point, Aberllydan; ac Ynys Dinas ger Trefdraeth.


Synhwyro o Bell, Porth y Rhaw, 1946-2006. Cymhariaeth gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru o ffotograffau a dynnwyd o’r awyr ym 1946 ac yn 2006 o ochr ddwyreiniol caer Porth y Rhaw.


Synhwyro o Bell, Porth y Rhaw, geoffiseg. Arolwg geoffisegol o ochr ddwyreiniol caer Porth y Rhaw sy’n dangos safleoedd nifer o dai crwn.

Amgaeadau Amddiffynol Cynhanesyddol : Adroddiad Synhwyro o Bell 2008-09 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Cyswllt: Ken Murphy

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru