Arolwg geoffisegol o amgylch mynwent creigiau cron sydd yn heneb hynafol gofrestredig. Fe ddadorchuddiwyd amgaed hirgrwn a oedd gynt yn anwybodol, mwy na thebyg trefedigaeth amddiffyniadwy Oes Haearn. Mae na o leiaf un ac efallai dau nodwedd bach hirsgwar, efallai mae adeiladau yw rhain. Mae dyddiad a phwrpas rhain yn anwybodol. I’r dwyrain o’r amgaead hirgron mae ffosydd sydd o’r un faint a ffosydd amddifynol. Mae’r nodweddion o ddau wahanaeth dyddiad o leiaf. Mae’r perthynas rhwng y ffosydd, y fynwent a’r amgaead hirgrwn ddim yn glir.
Yn dilyn arolwg llwyddiannus yng ngwanwyn 2009 a ddisgrifir uchod, cynhaliwyd arolwg ychwanegol yn ngwanwyn 2010. Roedd yr arolwg hwn yn cynnwys beddrod crwn a gwnaeth ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r safleoedd a ddarganfuwyd yn 2009.
Yn dilyn arolygon geoffisegol yn 2009 a 2010, cloddiwyd pedair cwter ar draws ffosydd dau loc mawr yn ystod 2012. Canfuwyd bod y ffosydd yn nodweddion sylweddol, hyd at 4.5m o led o 2.7m o ddyfnder, gan awgrymu bod ganddynt swyddogaeth amddiffynnol debygol. Gan fod llenwadau’r ffosydd yn cynnwys haenau meddal, glân o dywod a graean wedi’u hailddyddodi, ag ychydig iawn o olosg neu unrhyw ddeunydd anheddiad arall, mae’n debygol nad oedd y ffosydd hyn yn nodweddion hirhoedlog o’r dirwedd. Roedd tystiolaeth o gloddiau ar hyd y ffosydd yn bresennol mewn un gwter yn unig.
Arolwg geoffisegol Crugiau Cemmais
Cynllun yn dangos lleoliad y cwteri a gloddiwyd yn 2012
Gwirfoddolwyr yn cloddio ac yn cofnodi un o’r cwteri
Mae’r ffos yng Nghwter 3 yn dangos natur dywodlyd llenwadau’r ffosydd
Archwiliodd ail dymor o gloddio yn 2013 y caeadle hirgrwn i’r dwyrain o feddrodau crwn Crugiau Cemaes. Diffiniwyd y fynedfa i’r caeadle gan ffosydd amddiffynnol sylweddol, ac roedd yn gysylltiedig ag arteffactau, gan gynnwys sidelli, sydd fwy na thebyg yn dyddio o’r Oes Haearn. Mae’r gweddillion hyn a rhai eraill yn dangos bod hon yn anheddiad amddiffynnol o’r Oes Haearn. Ymchwiliodd ail ffos gaeadle hirsgwar bach o fewn y caeadle hirgrwn a ganfuwyd ar yr arolwg geoffisegol. Roedd y caeadle hirsgwar yn amgylchynu bedd wedi’i alinio o’r dwyrain i’r gorllewin, ac roedd beddau tebyg eraill gerllaw. Nid oedd unrhyw esgyrn yn goroesi. Mae safleoedd eraill yng Nghymru yn dyddio o’r canol oesoedd cynnar.
Roedd Crugiau Cemaes yn brosiect partneriaeth gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed /Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Trawslun trwy ffos hirgrwn y caeadle hirgrwn
Cloddfa’r caeadle hirsgwar bach gyda bedd yn y canol
Adroddiad Cyhoeddedig Crugiau Cemmaes (Archaeologica Cambrensis)
Adroddiad Canlynol Crugiau Cemmaes 2013 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddiad dros-dro Crugiau Cemmaes 2012 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)