Yn ystod yr haf fe wnaeth gwirfoddolwyr dan oruchwyliaeth staff yr Ymddiriedolaeth ymchwilio i gapel a mynwent ganoloesol ym Mhorth Clew. Efallai bod olion adfail y capel yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif, ond nid yw ei gysegriad yn hysbys, ac nid oes ffynonellau dogfennol defnyddiol yn ymwneud â’r capel. Mae arolwg geoffisegol yn dangos y capel yn sefyll mewn lloc wedi’i gylchynu gan ffos, er nad oes tystiolaeth ohono ar y wyneb, ac mae llociau eraill gerllaw. Mae ffynnon ‘sanctaidd’ yng nghornel y cae lle mae’r capel.
Ymchwiliwyd i nifer o feddau mewn pedair ffos i’r gorllewin o’r capel. Roedd rhai ohonynt yn ‘gistfeddau hir’ – sef beddau wedi’u leinio â llechfeini – sydd bron yn sicr yn dyddio i’r cyfnod canoloesol cynnar, ond nid oedd modd pennu maint y fynwent, gan fod pob un o’r pedair ffos yn cynnwys beddau. Roedd y lloc o amgylch y capel yn gymhleth ac o fwy nag un cyfnod. Canfuwyd crochenwaith yn dyddio o’r 12fed i’r 15fed ganrif yn llenwadau uchaf ffosydd y lloc, ond nid oedd crochenwaith yn is i lawr, hynny o bosibl yn dynodi mai cynhanesyddol yw cyfnodau cynharach y lloc.
Yn ystod haf 2009, ymgymerwyd ag ail dymor o gloddio. Ymddangosodd fod tir caeedig â ffosydd dwbl o amgylch y capel yn torri ar draws beddau cistfaen. Mae’n bosibl bod hyn awgrymu bod y fynwent heb ei hamgylchynu’n wreiddiol. Cloddiwyd rhannau o ddau adeilad; tua dwyrain y capel, roedd rhan o adeilad waliau cerrig wedi’i therasu yn y tir, claddfeydd blaendoredig a thir caeedig y ffos ddwbl; mewn mannau eraill awgrymodd adeilad pren fod mwy nag un cyfnod o gyfanheddu ar y safle. Mae’n bosibl bod trefn ffosydd tua gogledd-orllewin y capel yn amlygu terfyn i ardal yr anheddiad. Gwelwyd bod dyddiau radiogarbonaidd o bedair claddedigaeth yn dyddio o’r 6ed-7fed canrif, gyda phumed dyddiad ychydig yn ddiweddarach.
Adroddiad Cloddiad Porth Clew 2008 mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Adroddiad Porthclew 2009 mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Adroddiad Dyddiadu Radiocarbon Porth Clew mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Y Cloddiad yn 2009
Arolwg geoffisegol Porth Clew yn dangos lleoliad ffosydd y cloddiad.
Hayley Nicholls a Gareth Nicholls yn cloddio cistfedd ym Mhorth Clew.
Dangos ymwelwyr rhownd y safle ym Mrhorth Clew.