Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar ym Mae Gorllwein Eingl

Daeth y prosiect hwn i’r amlwg o ganlyniad i’r asesiad o Safleoedd Eglwysig o’r Oesoedd Canol Cynnar, lle dynodwyd nifer o safleoedd o fynwentydd arfordirol oedd ‘mewn perygl’. Wnaethant gynnwys mynwentydd cist oedd yn gysylltiedig â Chapel ‘St Anthony’, Bae Gorllewin Eingl (PRN 35095), a Sain Ffred (PRN 7606; SM80211094) y ddau ohonynt yn safleoedd sy’n sefyll ar ben clogwyni ar yn dioddef oherwydd erydiad y môr. Mae’r ddau safle yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP) ac mae’r bygythiad i’r safleoedd hyn wedi’i gydnabod gan Awdurdod y Parc. Prif amcan y prosiect oedd i gynorthwyo Parc Arfordir Penfro i lunio strategaethau rheoli ar gyfer cadw’r safleoedd hyn i’r dyfodol ac i godi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd a hefyd pa mor fregus ydynt. Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Cadw, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Phrifysgol Caerdydd.

Ymgymerwyd â gwaith gwerthuso ffosydd yn Mae Gorllewin Eingl ym mis Gorffennaf 2005 gan staff yr Ymddiriedolaeth a Staff (PCAP), gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Roedd o leiaf tri grw^p o gladdedigaethau cist yno. Mae’r grw^p cyntaf wedi bod yn cael ei erydu oddi ar wyneb y glogwyn (yn SM85140308) er 1997 o leiaf. Dynodwyd ail grw^p (yn SM85020311) yn ystod yr asesiad, ac roeddynt hwythau hefyd yn cael eu herydu oddi ar y glogwyn. Roedd y trydydd, a ddatgelwyd yn ystod y gwerthuso, ymhellach i mewn i’r tir o’r grwpiau hyn (yn SM85150305) lle ceir amgaead siâp hirgrwn sy’n cynrychioli’r fynwent o amgylch o amgylch cyn Gapel ‘St Anthony’. Roedd y capel hwn mewn bodolaeth tua diwedd yr oesoedd canol ac mae’r safle wedi’i nodi fel ‘Old Church’ ar fap y degwm yn 1844. Mae adeilad y capel wedi mynd ond mae’r amgaead – sydd wedi’i nodi â llinell doredig a’i labeli ‘Burial Ground (Site of)’ ar fapiau AO (OS) Argraffiadau 1af ac 2il – a gellir ei weld o hyd fel gwrthglawdd hirgrwn, isel, sy’n mesur tua 20m mewn diamedr.

Cloddiwyd ffos oedd yn mesur 8m x 5m yn y lleoliad hwn. Datgelwyd chwe o gladdedigaeth cist pendant, a thri o rai posib, sydd o fewn man wedi’i amgylchynu â chlawdd caregog sylweddol, a gynrychiolir gan wrthglawdd hirgrwn. Mae’n ymddangos eu bod yn perthyn i gam hwyrach yn safle’r fynwent. Mae’r clawdd yn gynharach na’r claddedigaethau agored ond yn fwy na thebyg fe’i adeiladwyd dros fynwent gynharach, awgrymir hyn oherwydd yr esgyrn dynol o fewn y clawdd.

Wnaeth cloddiad dyfnach trwy’r clawdd hefyd ddatgelu nodwedd gynharach, ffos ffiniol o bosib, sy’n dilyn llinell debyg. Cloddiwyd nifer o ffosydd rhwng amgaead y fynwent a wyneb y glogwyn, ond ni ddaethpwyd ar draws rhagor o gladdedigaethau, gan awgrymu mai nifer gyfyngedig o’r claddedigaethau agored sydd ar ôl. Cymerwyd nifer o samplau ar gyfer dyddio C14, dadansoddiad ffosffad, ac o bosib dadansoddiad palaeoamgylcheddol.


Cloddio bedd gist o fewn amgaead mynwent ym Mae Gorllewin Eingl

Sut yn union y mae’r claddedigaethau o fewn yr amgaead yn perthyn, o ran dyddiad, i’r claddedigaethau yn wyneb y glogwyn, hyd hes y cawn y dystiolaeth o ran dyddio, efallai’r dilyniant yw –
Cam 1 – claddedigaethau heb eu hamgáu mewn cae agored (gan gynnwys y claddedigaethau yn wyneb y glogwyn?)
Cam 2 – sefydlu plot claddu ffurfiol, wedi’i amgáu gan ffos?
Cam 3 – adeiladu clawdd ffiniol, ailddiffinio safle’r fynwent gan amharu ar gladdedigaethau cynharach

Cloddio Bae Gorllewin Eingl – Gorffennaf 2006

Am bythefnos ym mis Gorffennaf dechreuwyd ar ail dymor o gloddio Bae Gorllewin Eingl, Sir Benfro, gan staff yr Ymddiriedolaeth, PCAP, gyda myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a gwirfoddolwyr lleol. Yn ogystal â chymorth grant gan Cadw, cefnogwyd y prosiect gan PCAP (a dalodd am gost yr arolwg geoffisegol) a PLANED (a dalodd am swydd allanol).

Cloddiwyd chwe ffos er mwyn mynd i’r afael â chwestiynau penodol a godwyd gan yr arolwg geoffisegol (ymgymerwyd hyn gan Stratascan) a chloddiad y flwyddyn flaenorol. Cloddiwyd ffos drawiadol (nid oes dyddiad wedi’i roi iddi eto, ond mae’n bosib ei bod yn cynhanesyddol) ac o bosib llwybr â ffos.

Ailagorwyd ffos o’r tymor cynt er mwyn egluro cymeriad a dyddodiad dilynol mur is-gylchog amgaead y fynwent ganoloesol gynnar, clawdd a ffos gynharach sydd o ddyddiad cynhanesyddol posib sydd mae’n ymddangos ar yr un amlinelliad. Cloddiwyd sawl bedd, yn cynnwys bedd gist a sawl baban a gladdwyd.

Mae’r safle wedi’i leoli wrth ymyl traeth sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Oherwydd hynny, mae nifer fawr o ymwelwyr wedi bod yma. Oherwydd y prosiect mae llawer o wirfoddolwyr a myfyrwyr wedi cael profiad o gloddio.

Yr arolwg geoffisegol ym Mae Gorllewin Eingl, gydag amgaead is-gylchog y fynwent wedi’i leoli o fewn amgaead hirsgwâr mwy o faint ym mhen uchaf dde’r ddelwed

Lluniwyd adroddiad ar gloddiadau a wnaed yn 2005 a 2006, gan gynnwys adroddiadau gan arbenigwyr. Bwriedir cyhoeddi adroddiad ar y cloddiadau gyda chanlyniadau cloddiad mynwent o’r canoloesoedd cynnar yng Nghrug Brownslade. Yn ystod 2007-08 estynnwyd yr arolwg geoffisegol i gynnwys caeau cyfagos.

 

Adroddiad Gorllewin Eingl 10.6Mb (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddiad Cloddiad Arfordir Bae Gorlleiwn Eingl 2010 (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddiad Crug Brownslade a Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar ym Mae Gorllwein Eingl (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru