Chwilota’r Tywi

Mae Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin, gorllewin Cymru, yn cael ei goleddu fel tirwedd hanesyddol bwysig, ac mae’n enwog am ei olygfeydd o safon sydd wedi eu ffurfio gan iâ, dwr a dyn. Mae ganddo gyfoeth o drysorau yn cynnwys ceyrydd a chestyll, parcdiroedd a gerddi, a threfi a phentrefi llawn cymeriad.

Roedd y prosiect Tywi Afon yr Oesoedd yn canolbwyntio ar yr ardal rhwng Llangadog a Dryslwyn. Anelai at gryfhau cysylltiadau’r gymuned â’r dirwedd drwy ennill gwell dealltwriaeth a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i edrych ar ôl eu tirwedd.

Mae hwn yn brosiect etifeddiaeth nad yw wedi’i ddiweddaru ar gyfer ein gwefan gyfredol.

Gallwch ei weld trwy glicio ar y ddolen isod (yn agor mewn ffenestr newydd).

https://www.dyfedarchaeology.org.uk/tywi/wtywi.html

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru