Ym mis Mehefin 2016, canfuwyd beddrod crwn posibl, nad oedd wedi cael ei weld o’r blaen, o dan un o bwyntiau arolygu yr Arolwg Ordnans yn Fan Brycheiniog, sef un o’r mannau uchaf ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, 802 metr uwchben lefel y môr. Roedd erydiad difrifol o ganlyniad i ymwelwyr yn effeithio ar ochr orllewinol y beddrod posibl, gan ddatgelu pentwr caregog, wedi’i amgylchynu gan gerrig mawr o dan y pwynt arolygu. Penderfynwyd cynnal cloddiad bach er mwyn dadansoddi a nodweddu’r safle. Gwnaed hyn dros dridiau ym mis Mai 2017. Dangosodd bod y safle bron yn sicr o fod yn feddrod crwn o’r Oes Efydd wedi’i wneud o bentwr isel o gerrig wedi’i orchuddio gan bentwr o bridd, ac wedi’i amgylchynu gan gerrig mawr â diamedr o tua 8 metr. Mae’r safle o ansawdd digon uchel i gael ei ddynodi’n Heneb Gofrestredig. Dylid trwsio’r difrod a achoswyd gan ymwelwyr.