Cloddio Faen Foel

Ymgymerwyd â’r prosiect hwn ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheinig ac fe’i hariannwyd yn rhannol gan y Parc a chan Cadw. Amcan y prosiect oedd cofnodi a diogelu gweddillion tomen gladdu o’r Oes Efydd yn Faen Foel ar y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin (SN 8215 2234). Cafodd cyflwr yr heneb hwn ei gofnodi ym mis Mehefin 2002 fel rhan o’r prosiect Asesu Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol a ariennid gan Cadw. Gwelwyd bod y garnedd wedi’i herydu’n ddifrifol yn sgîl gwynt a glaw a chan fod ymwelwyr yn symud cerrig er mwyn creu ‘carnedd i gerddwyr’.

Ymgymerwyd â gwaith cloddio rhannol ym mis Mehefin 2004. Ar ôl gwaredu’r glaswellt a’r ‘carnedd i gerddwyr’, gwelwyd bod cylch o gerrig o oddeutu 11m o ddiamedr yn diffinio’r heneb. Roedd y gist hon oddeutu 1m o hyd a 0.5m o led ac yn cynnwys casgliad o esgyrn wedi’u hamlosgi, wrn pridd wedi torri (llestr bwyd efallai) a nifer o arfau fflint. Darganfuwyd gweddillion amlosgiad yn y cerrig gerllaw yn ogystal ynghyd â darnau o Wrn Colerog. Mae’r crochenwaith yn cael ei warchod gan Phil Parkes ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Ymwelodd Astrid Caseldine o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan â’r safle a chafodd samplau paleo-amgylcheddol eu casglu.

Mae gweddillion yr heneb sydd wedi goroesi bellach wedi’u diogelu gan fatiau terram a cheir cherrig a glaswellt drostynt.


Y gist yn Faen Foel yn ystod y gwaith cloddio

Ebrill 2005- Mawrth 2006 – Cynnydd wedi’r cloddio


Rimyn y Llestr Bwyd o’r gist ganol yn Fan Foel

O ganlyniad i archwilio’r asgwrn llosg a ddarganfuwyd yn y gist ganol gan Ros Coard (Prifysgol Llambed) mae tri unigolyn wedi nodi bod oedolyn, plentyn ifanc, o bosib dim mwy na 12 mlwydd oed, a baban yn y gist. Hefyd ynddo cafwyd hyd i esgyrn llosg dau fochyn a chi o bosib. Yn yr ail gorfflosgiad cafwyd hyd i weddillion dau unigolyn: oedolyn a pherson ifanc.

Mae adroddiad ar y crochenwaith gan Alex Gibson (Prifysgol Bradford) yn dynodi fod y crochenwaith sydd wedi dod o’r gist ganolog yn Gynhwysydd Bwyd a bod y cynhwysydd o’r ail gorfflosgiad yn Wrn Colerog.

O ganlyniad i ddadansoddi’r paill gan Astrid Caseldine (Prifysgol Llambed) gwelwyd fod yna dusw o flodau’r erwain gyda’r gladdedigaeth ganolog, sef tusw o flodau hufen a gwyn deniadol. Mae’r astudiaeth o’r paill hefyd yn awgrymu fod y dirwedd sydd o amgylch y garnedd yn rhostir a thir pori agored yn bennaf lle y cafodd y garnedd ei hadeiladu. Hefyd mae yna dystiolaeth fod y rhostir wedi’i losgi ar bwrpas, sydd efallai’n awgrymu fod y gweithgaredd hwnnw’n gysylltiedig â chladdedigaethau.


Daethpwyd o hyd i baill blodau’r erwain gyda’r haenau a losgwyd

Cafwyd pedwar dyddiad radiocarbon (dau o bob un o’r gweddillion a losgwyd) diolch i grant a dderbyniwyd gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru (gweler y tabl isod).

Bellach mae adroddiadau eraill hefyd wedi’u derbyn: ar y fflint gan Lawrence Barfield (Prifysgol Birmingham), a hefyd ar forffoleg micro’r pridd gan Richard Macphail (Prifysgol Llundain).

Yn dilyn cwblhau’r adroddiadau arbenigol a darluniau o’r arteffactau (a ymgymerwyd gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru) bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gwblhau i’w gyhoeddi.

Y dyddiadau radiocarbon o Fan Foel


Golygfa Fan Foel o Landdeusant


Y Cloddiad


Y Cwrbyn


Wrn Crochenwaith

Adroddiad Fan Foel (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddiad Fan Foel 2004 dros dro mewn ffurf PDF yn Saesneg (yn agored mewn fenestr newydd)

 

 

Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru