Beddrod Crwn Fan Talsarn

Cafodd y beddrod crwn hwn ei wastatau yn y 1990au. Fodd bynnag, dangosodd arolwg geoffisegol yn 2009 fod gweddillion yn debygol o oroesi o dan y tir. Canfuwyd cwpan pigmi a gwaywffon efydd yn y beddrod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cloddiad mis Hydref 2010. Ni wnaeth dim o’r twmpath beddrod crwn oroesi. Fodd bynnag, darganfuwyd dau fedd bach iawn a bas iawn. Roedd un o’r rhain wedi’i leinio â cherrig ac yn cynnwys asgwrn wedi’i amlosgi a Chwpan Pigmi. Roedd globylau o efydd wedi cymysgu â’r asgwrn sy’n arwydd bod blaen gwaywffon neu glefydd wedi cael ei osod yn y crochan angladdol gyda’r corff. Roedd wrn mawr a oedd yn cynnwys esgyrn wedi’u hamlosgi yn yr ail fedd wrth ochr Cwpan Pigmi. Symudwyd yr wrn yn gyfan fel y gellir tynnu ei gynnwys yn ofalus yn y labordy ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae canlyniadau cychwynol yn dangos bod Cwpan Pigmi arall yn yr wrn mawr gyda’r esgyrn wedi’u hamlosgi. Oherwydd pwysigrwydd y safle a’r arteffactau sydd wedi cadw’n dda yn rhyfeddol, gobeithir y gellir cloddio mwy yn ystod 2011.

Yn 2011, cynhaliwyd cloddiad dros dair wythnos i ymchwilio ymhellach i weddillion y domen gladdu, yn benodol i ddisgrifio’r nodweddion a nodir yn yr arolwg geoffisegol ac i adennill unrhyw arteffactau pellach sydd wedi’u cynnwys mewn beddau corfflosgiadau ychwanegol tybiedig. Cafwyd dealltwriaeth well o gymeriad y safle, a bu’r cloddio’n ddigonol i gyfiawnhau dadgofrestru’r gofeb flaenorol. Ynghyd ag amrywiaeth o nodweddion toredig, adferwyd nifer o botiau cyfan o dri bedd. Codwyd y llestri’n gyfan ar gyfer gwaith cloddio a chadwraeth mewn labordy. Caiff dadansoddiad o’r holl ddeunydd a adferwyd ei gynnal yn 2012.

Hoffem ddiolch i Mr a Mrs Wright am ganiatau i ni gloddio ar eu tir. Rhoddwyd grant gan Cadw i’r cloddiad yma.

Dangosodd dadansoddiad ôl-gloddiad yn 2012-13 fod y corfflosgiadau a phwll yn cynnwys dwy ‘astell’ fer o bren golosgedig yn dyddio o rhwng 2050 a 1740 CC. Roedd pwll arall a oedd yn dyddio o 3600 i 3525 CC yn cynnwys darn o gwarts grisial, cwarts llosg a sawl darn o grochenwaith a all ddyddio o’r cyfnod Neolithig cynnar .

Mae’r nodweddion datgloddedig, y geoffiseg a’r casgliad o esgyrn llosgedig yn awgrymu mynwent fechan ar gyfer grwp ceraint wedi’i hamgáu mewn carnedd gylchog o’r cyfnod Neolithig neu’r Oes Efydd, â chrug crwn wedi’i adeiladu ar ei phen. Mae pyllau bach wedi’u llenwi â golosg sy’n dyddio o 1415 i 1270 CC a 1050 i 895 CC, yn awgrymu bod y safle wedi’i ddefnyddio’n hwyrach yn yr Oes Efydd.


Un o’r claddedigaethau a gloddiwyd yn 2011, yn dangos esgyrn a amlosgwyd ac wrn wedi torri


Arolwg geoffisegol o’r beddrod crwn


Un o Gwpanau Pigmi yr Oes Efydd o’r safle cloddio


Cwpanau Pigmi y Fan ar ol cael eu glanhau yn y labordy
Llun: Phil Parkes, Prifysgol Caerdydd

Adroddiad Beddrod Crwn Fan Talsarn (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddiad Arolwg Terfynnol Geoffisegol Fan (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddaid dros-dro cloddiad asesu Fan 2010 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddiad dros-dro Beddrod Crwn Fan 2011 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru