Maglau Pysgod/Coredau

Nod y prosiect hwn oedd nodi safleoedd maglau pysgod neu goredau yn ne-orllewin Cymru, asesu eu cyflwr ac argymell yr enghreifftiau gorau i’w hamddiffyn yn statudol.

Mae dal pysgod drwy adeiladu ‘maglau’ o goed a cherrig wedi’i arfer gan gymdeithasau morwrol ledled y byd ers milenia. Yn ne-orllewin Cymru, mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu eu bod yn cael eu defnyddio yn ystod yr Oesoedd Canol ar hyd rhannau o arfordir Ceredigion. Mae’r maglau pysgod mwyaf cadwrus a chymhleth i’w gweld ar yr arfordir o gwmpas Aberarth. Mae gwaith maes wedi amlygu sawl cyfnod o ailadeiladu’r maglau hyn, sy’n ymestyn i sawl ganrif yn ôl, mewn ymateb i’r newidiadau i lefel y môr o bosibl. Mae enghreifftiau da eraill o faglau pysgod i’w gweld ar hyd aber afon Teifi, yn Abergwaun, Dinbych-y-pysgod ac ar hyd aber afon Tywi.


Rhai o’r maglau pysgod mwyaf cadwrus ar hyd arfordir Ceredigion

 

 

Adroddiad Maglau Pysgod Canoloesol ac Ôl-ganoloesol Cynnar (Saesneg yn unig, PDF 9Mb o faint, yn agored mewn ffenestr newydd)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru