Mae Hafod, sef un o’r tirweddau naturiolaidd, pictwrésg pwysicaf yn Ewrop, yn rhan uchaf ac angysbell dyffryn yr afon Ystwyth ryw 15 kilometr i mewn i’r tir o Aberystwyth.
Yma yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif y cododd Thomas Johnes blasty ac yr aeth ati i wella’r ystad. Edmygwyd y gwaith arloesol a wnaeth mewn plannu coedwigoedd ar yr ucheldir ac amaethyddiaeth a hwsmonaeth arbrofol, ond am ei waith tirlunio pitwrésg y cofir Johnes orau bellach.
Fe sefydlodd nifer o lwybrau hir, sy’n cysylltu nodweddion naturiol fel rhaeadrau, cataractau a mannau gwylio gyda phontydd, hafdai, grotos a baddon oer a gadawodd i’r cerddwr weld y tirwedd mewn cyfres o ‘luniau’, a dyna sut y cafwyd y term ‘pictwrésg’. Wedi i Johnes farw, esgeuluswyd elfennau pictwrésg y tirwedd ac yn y man anghofiwyd y rhan fwyaf ohonynt. Bu’r Comisiwn Coedwigaeth yn gwneud gwaith plannu helaeth.
O ganlyniad i ddiddordeb o’r newydd yng ngwaith pictwrésg Johnes yn ystod y blynyddoedd diweddar, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth yr Hafod, ac mae’r sefydliad hwn mewn partneriaeth â Menter Coedwigaeth, perchnogion Ystad Hafod, wedi ymgymryd â rhaglen adfer. Fel rhan o’r rhaglen hon, bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cofnodi adeiladau, creu data-bas GIS, arolygu a chloddio.
Adroddiadau PDF ynglyn a phrosiect yr Hafod (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd.)
Cyswllt prosiect: Ken Murphy