Cyflwyniad
Yn ystod Mehefin 2004 bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wrthi’n cloddio llwybr pren yn Llancynfelyn ger Tal-y-bont yng ngogledd Ceredigion. Archwiliwyd y llwybr gyntaf ym mis Mawrth 2004 pan gafwyd dyddiadau radiocarbon o ddwy sampl o’r pren. Dangosodd y dyddiadau hynny i’r llwybr gael ei adeiladu rywbryd rhwng OC 900 ac OC 1020.
Mae’r llwybr ar gyrion Cors Fochno, sef darn o wlyptir sy’n cynnwys corsydd llanw a chorsydd dwr croyw, ac mae’n safle o bwys ecolegol mawr. Am flynyddoedd lawer, mae ymylon y corstir wedi’u hadennill i’w ffermio. Mae’r broses honno’n dal i fynd yn ei blaen ac wedi arwain yn ddiweddar at ddarganfod safleoedd archaeolegol nad oeddent yn hysbys cynt. Gan fod y tir yn llawn dwr, mae defnyddiau fel pren, a fyddai fel rheol yn pydru dros amser, wedi goroesi. Un safle o’r fath yw’r llwybr pren hwn.
Gellir ei weld ar wyneb y tir ar ffurf banc isel sy’n rhedeg ar draws cae pori. Ym mis Mawrth eleni fe gloddiwyd ffos ar draws y banc a chafwyd ei fod yn gorchuddio cyfres o ddarnau pren a ffurfiai lwybr sy’n rhyw 1.5m o led. Cawsai’r darnau pren eu gosod ar draws dwy ‘gledren’ bren, a chynhelid yr adeiladwaith cyfan gan gyfres o begiau neu stanciau a gawsai eu curo i’r mawn.
Mae llwybrau pren tebyg i’r un yn Llancynfelyn wedi’u cofnodi a’u cloddio mewn llawer rhan o Brydain ac Iwerddon. Amrywiant yn fawr o ran eu dyddiad ‘ o’r oes Neolithig gynnar (dros 5000 o flynyddoedd yn ôl) hyd at yr Oesoedd Canol. Cryn syndod oedd cael ar ddeall bod y llwybr pren yn Llancynfelyn yn dyddio o gyfnod cyn y Goresgyniad Normanaidd, ac mae hynny’n ychwanegu at natur anarferol y darganfyddiad. Mae’n bosibl mai llwybr ar draws y gors tuag at yr eglwys a’r anheddiad yn Llancynfelyn oedd hwn. Bydd cloddio’r llwybr yn ein helpu i ddeall technegau trin y pren a’r ffordd y câi’r coetir lleol ei reoli i gynhyrchu pren yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar. Bydd y cloddio hefyd yn dweud rhagor wrthym am natur yr amgylchedd yn y rhan hon o Geredigion fil o flynyddoedd yn ôl.
Hoffem ddiolch i’r ffermwr, Mr Dilwyn Jenkins, am adael i ni gloddio yn ei gae, i Cadw am ddarparu cymorth ariannol, ac i fyfyrwyr a staff Prifysgol Birmingham am helpu gyda’r cloddio.
Cofnodi ac Asesu gwaith Achub Mawrth 2004
Ymgymerwyd â gwaith cofnodi gwaith achub strwythur blwch pren ym mis Medi 2002, yn Llangynfelyn, ger Talybont (NGR SN64929064). Roedd ffermwr lleol wedi darganfod y strwythur wrth wneud gwaith gwella tir ar ochr ddeheuol Cors Fochno. Cafodd dau ddyddiad radiocarbon o’r Oes Efydd eu pennu ar gyfer samplau o’r pren derw a darganfuwyd tystiolaeth o dwmpath llosg cysylltiedig pan gafodd y cae ei aredig. Gwnaed y gwaith achub hwn ym mis Mawrth 2004 drwy werthuso ar raddfa fach strwythurau hirfain a leolwyd mewn cae cyfagos â chymorth oddi wrth gronfa wrth gefn Cadw. Gweddillion llwybr pren oedd y strwythur hirfain a oedd wedi’i orchuddio gan haenau o gerrig mân. Pennwyd dyddiadau radiocarbon ar gyfer dwy sampl o’r pren sef rywbryd yn ystod y 10fed a’r 11fed ganrif OC.
Y ‘blwch’ pren a gofnodwyd yn ystod gwaith gwella tir yn Llangynfelyn wrth ochr Cors Fochno
Y gwaith cloddio Mehefin 2004
Yn ystod mis Mehefin aeth yr Ymddiriedolaeth ati i gloddio’r llwybr pren yn rhannol. Daeth myfyrwyr o Sefydliad Archaeoleg a Hynafiaeth Prifysgol Birmingham i gynorthwyo â’r gwaith. Archwiliwyd dwy ran o’r llwybr ac ymgymerwyd â rhaglen sylweddol o waith samplo paleo-amgylcheddol. Awgryma dyddiadau dendrocronolegol fod tri o’r darnau pren yn dod o goed a gafodd eu cwympo rhwng OC1080 ac OC1120.
Lleolwyd un o’r ffosydd ar ben deheuol y llwybr gweladwy lle roedd y llwybr yn mynd dros ardal eang o weddillion llosgi a diwydiannol. Gobeithir y bydd samplau o’r gwastraff hwn yn awgrymu natur a dyddiad y prosesau diwydiannol a oedd yn digwydd yn yr ardal. Ymddengys ei bod yn bosibl bod y llwybr yn cysylltu’r ardal hon o weithgareddau diwydiannol ag ‘ynys’ Llangynfelyn tua’r gogledd.
Bu diddordeb lleol sylweddol yn y gwaith cloddio. Daeth ysgolion lleol i weld y gwaith a chynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus iawn. Cafodd y gwaith lawer o sylw yn y cyfryngau lleol ac mewn rhaglenni newyddion ar y teledu yn ogystal. Cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth ddyddiadur cloddio er mwyn cyd-fynd â’r gwaith cloddio yn 2004 a gellir ei weld o hyd yma.
Mae’r gwaith o adnabod coed o gloddiad 2004 yn adlewyrchu’r defnydd o dderw a gwern yn y llwybr, sy’n adlewyrchu’r adnoddau sydd ar ac wrth ymyl y gors. Mae asesiad cychwynnol o baill o dan y llwybr hefyd wedi dynodi bod ynn, bedw a chyll yn tyfu yn y fan hon cyn i’r llwybr gael ei adeiladu. Aed a golosg a ddarganfuwyd yn y dyddodiadau diwydiannol am ddyddio radiocarbon a chafwyd y dyddiadau hyn sef 60CC – 90AD a 20AD – 220AD, sy’n awgrymu gweithgarwch o ddiwedd yr Oes Haearn – Rhufeinig.
Mae gan ardal Llangynfelyn – Talybont hanes hir ac mae llawer wedi’i ysgrifennu am hanes y gwaith plwm a chopr, gyda sawl gwaith mwyngloddio o wahanol ddyddiadau, gan gynnwys gweithfeydd o oes y Rhufeiniaid o bosib. Nid ydym yn siwr ar hyn o bryd o natur y gweithgarwch. Serch hynny, rhyw fath o brosesu oedd yn gysylltiedig â smeltio plwm sy’n fwyaf tebygol. O bosib roedd yna smeltio yn digwydd i’r de neu ddwyrain, ar y tir sych ar ymyl deheuol y gors. Mae’n bosib fod y Gaer Rufeinig yn Erglodd, c.500m i’r de ddwyrain o’r safle, hefyd yn berthnasol, sy’n awgrymu bod milwyr Rhufeinig yn bresennol yn yr ardal o bosib er mwyn diogelu adnoddau o fetel lleol.
Cloddiad – Mehefin 2005
Dyma’r ail dymor o gloddio yn safle llwybr Cors Borth ac unwaith eto wnaeth myfyrwyr o Brifysgol Birmingham gymryd rhan ynddo.
Y prif amcanion ar gyfer cloddiad y tymor hwn oedd i:
· benderfynu ar y berthynas, os oes yna un, rhwng y dyddodiadau diwydiannol a’r llwybr.
· asesu maint, cymeriad, dyddiad ac arwyddocâd y dyddodiadau diwydiannol ac unrhyw cymhlygion prosesu cysylltiedig.
· adfer mwy o dystiolaeth o ran dyddio ar gyfer y llwybr a deunydd diwydiannol.
· ymgymryd â rhaglen systemataidd o samplo palaeoamgylcheddol er mwyn archwilio’r tirwedd cyn ddiwydiannol ac i asesu dylanwad y gweithgarwch diwydiannol ar y dirwedd honno.
Cynllun yn dangos lleoliad yr ardal sy’n cael ei gloddio. Datgelwyd yr olion smeltio yn T21.
Er mwyn cyflawni’r amcanion hynny penderfynwyd gweithredu strategaeth o gloddio ardal agored a thyllau prawf. Agorwyd dau waith cloddio ardal agored; ym mhen deheuol y llwybr (T6 – wnaeth hwn ail agor rhan o T4 o 2004) ac ar draws gwrthglawdd amlwg (T7), a gredwyd i fod yn lleoliad addawol ar gyfer ffwrnais. Cloddiwyd y tyllau prawf, a oedd yn wreiddiol yn mesur 1m x 1m, ar draws ardal lydan. Ehangwyd rhai tyllau prawf er mwyn archwilio nodweddion a dyddodiadau a ddarganfuwyd.
Mae’n amlwg bod y llwybr yn hwyrach ac, felly, ddim yn perthyn yn uniongyrchol i’r gweithgarwch diwydiannol. Daethpwyd o hyd i aelwyd smeltio. Mae galena a gweddillion o wastraff wedi’i ddarganfod sy’n dynodi bod smeltio plwm wedi digwydd ar y safle. Cofnodwyd dyddodiadau helaeth o falurion a deunydd gwastraff dros ardal lydan ac mae’n ymddangos bod y gweithgarwch diwydiannol cryn bellter i’r dwyrain – gorllewin ar hyd ymyl y gors.
Ymgymerwyd â gwaith samplo er mwyn darparu deunydd ar gyfer dadansoddiad palaeoeamgylcheddol, dendrocronoleg, dyddio radiocarbon a dadansoddiad diwydiannol er mwyn bod o gymorth i ddeall y safle a’i le yn y dirwedd.
Yr aelwyd smeltio yn T21
Cloddio’r llwybr pren yn Llangynfelyn
Ebrill 2006 – Mawrth 2007: yr asesiad yn dilyn y cloddiad
Mae gwaith wedi dechrau ar gam cyntaf y rhaglen yn dilyn y gwaith cloddio ar lwybr pren sy’n gysylltiedig â deunydd diwydiannol sydd wedi’i adael yn Llangynfelyn, Talybont. Yn ystod y ddau dymor o waith cloddio, ymgymerwyd â samplo er mwyn darparu deunydd ar gyfer dadansoddi palaeoamgylcheddol, dendrocronoleg, dyddio radiocarbon a dadansoddi diwydiannol er mwyn bod o gymorth i ddeall y safle a’i le yn y dirwedd. Bellach mae’r deunydd hwn yn cael ei asesu er mwyn penderfynu ar ei botensial o ran gwneud gwaith dadansoddi pellach. Ar hyn o bryd mae’r gwaith hwn yn cynnwys y canlynol:
Asesiad a dadansoddiad cychwynnol o samplau o golofnau paill – Astrid Caseldine
Asesiad a dadansoddiad cychwynnol o bren er mwyn eu hadnabod a dendrocronoleg – Nigel Nayling.
Adnabod rhywogaethau coed ag eithrio derw – Astrid Caseldine
Asesiad a dadansoddiad cychwynnol o samplau a gasglwyd o weddillion chwilen a ffawna micro eraill – Prifysgol Birmingham
Dadansoddi samplau slag a leinin ffwrnais (metalograffeg a darn SEM o fetel, gwydr a deunydd sydd heb ei addasu (yn cynnwys gweddillion ar leinin y ffwrnais) er mwyn penderfynu natur y broses smeltio) – Lorna Anguilano (UCL)
Asesiad cemegol o waelodion samplau monolith – samplo cyfresol o monoliths a dadansoddi pwynt ar samplau mawr. Y nod yw cofnodi’r newid mewn dwysedd y llygredd plwm a metel; y newid yn y mathau o brosesau; a’r newidiadau o ran ffynhonnell y mwyn – Tim Mighall a Simon Timberlake
Asesiadau mwynegol a deunyddiol y gwaelodion (yn cynnwys cyfansawdd mwynol y rwbel a chyfanswm y golosg). Y nod yw chwilio am dystiolaeth o ran gwreiddiau’r gwaelodion – Simon Timberlake
Asesu darnau mawr er mwyn chwilio am weddillion o blanhigion wedi’u llosgi, adnabod golosg a dyddio radiocarbon (yn cynnwys y rheini sy’n gysylltiedig â’r llwybr) – Astrid Caseldine a Nigel Page
Dadansoddi mineralau trwm (plwm, sinc, copr ac ati) o golofnau o baill er mwyn mynd i’r afael â chronoleg a gweithgarwch diwydiannol yn yr ardal – John Crowther
Adroddiad Llangynfelyn a gyhoeddwyd yn 2012 (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)
Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy – k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk