Lleiandy Llanllyr, Talsarn

Sylfaenydd lleiandy Sistersaidd Llanllyr oedd Rhys ap Gruffudd, tua 1180. Yn dilyn diddymiad y lleiandy yn 1535 mae’n debyg yr addaswyd yr adeiladau’n blasty. Mae’n debyg y chwalwyd y plasty hwn pan adeiladwyd y ty presennol yn y ddeunawfed ganrif a chyfnod cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’n syndod nad yw union leoliad y lleiandy na’r plasty yn wybyddus ac felly mae peryg y bydd olion archaeolegol pwysig yn cael eu dinistrio’n anfwriadol. Nod gwaith cloddio 2014 oedd canfod lleoliad y lleiandy a’r plasty.

Llwyddodd y gwaith cloddio i ddatgelu wyneb coblog a sylfeini a oedd yn cyfateb ag adeiladau a gerddi ffurfiol a nodwyd ar fap yr ystâd yn dyddio o 1768, ac efallai mai hwn oedd y plasty cyn iddo gael ei ddymchwel. Fodd bynnag, ni fu’n bosib yn ystod cyfnod byr y gwaith cloddio i gael tystiolaeth i fedru dyddio’r olion archaeolegol.

Yn 2015, archwiliodd cloddfeydd y dyddodion haenedig sy’n gysylltiedig â’r arwyneb cobls a ddadorchuddiwyd yn 2014. Ymchwiliwyd i dystiolaeth strwythurol ar gyfer adeiladau. Cafodd yr adeiladau hyn eu dymchwel yn systematig, ac mae tystiolaeth o arteffactau sy’n gysylltiedig â nhw yn dangos eu bod yn dyddio o’r 16eg ganrif neu’n ddiweddarach. Cofnododd arolwg o wrthglawdd mewn coetir sy’n agos at yr arwyneb cobls weddillion nodweddion rheoli dwr, pysgodlynnoedd o bosibl. Cafodd yr hyn sy’n ymddangos yn weddillion llifddor bren sy’n gysylltiedig â’r gweddillion hyn eu dyddio’n ddendrocronolegol i’r 13eg ganrif gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.


Darlun Thomas Dinley yn 1684 yn dangos plasty Llanllyr o bosib


Yr wyneb coblog a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio a sylfeini posib y gerddi ffurfiol a nodwyd ar fap yr ystâd yn 1768


Awyrlun o’r arwyneb cobls a chloddfa 2015


Dernyn o deilsen llawr o’r 16eg ganrif

Adroddiad Dros Dro Lleiandy Llanllyr 2014

Adroddiad Dros Dro Lleiandy Llanllyr 2015

Adroddiad Llanllyr 2017 (PDF – yn agor mewn ffenest newydd)

Adroddiad Lleiandy Llanllyr “Archaeology in Wales” (PDF – yn agor mewn ffenest newydd)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru