Eglwysi a Chapeli Canoloesol ac Ol-ganoloesol cynnar

Mae bron i 2,000 o eglwysi a chapeli canoloesol ac ôl-ganoloesol, a safleoedd cysylltiedig, yn ne orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae nifer fawr o’r rhain yn gapeli ôl-ganoloesol diweddarach, ac felly nid ydynt yn ffurfio rhan o’r astudiaeth hon. O’r rhai sy’n weddill, mae llawer ohonynt yn adeiladau sy’n bodoli ac yn cael eu defnyddio, ac felly maent yn disgyn y tu allan i gwmpas yr astudiaeth hon. Dim ond eglwysi a chapeli adfeiliedig, gwrthgloddiau, neu eglwysi a chapeli sydd wedi’u hadfeilio cymaint nad oes unrhyw olion gweladwy ar ôl, ac y byddai’n bosibl eu dynodi’n henebion cofrestredig, a gynhwyswyd. Yn ystod yr astudiaeth hon, aseswyd 129 o safleoedd ac fe ymwelwyd â 51 o’r rhain.

Darganfuwyd bod sawl eglwys a chapel o ansawdd uchel yn ne orllewin Cymru, sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, nad oes ganddynt unrhyw ddiogelwch cyfreithiol ar hyn o bryd. Yn yr enghreifftiau gorau, mae gwaith maen canoloesol yn sefyll hyd at sawl metr o uchder. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd yn sylfeini neu’n wrthgloddiau erbyn hyn. Caiff pwysigrwydd llawer o’r safleoedd ei atgyfnerthu gan ddogfennau canoloesol a diweddarach ac olion cysylltiedig, fel darganfod claddfeydd. Felly, mae dros bymtheg o safleoedd wedi’u hargymell ar gyfer eu cofrestru.


Capel-y-Gors, Sir Gaerfyrddin


Capel Erbach, Sir Gaerfyrddin

Adroddiad Eglwysi a Chapeli Canoloesol ac Ol-ganoloesol cynnar (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd – maint 12Mb)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru