Croesau Canoloesol a Diweddarach

Ni chwblhawyd unrhyw arolwg cynhwysfawr o groesau Canoloesol a diweddarach yn ne orllewin Cymru. Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â hynny, gyda’r nod o adnabod y safleoedd pwysicaf a’u hargymell ar gyfer eu cofrestru. Cyflawnwyd hyn trwy fantoliad pen desg cyflym o’r holl safleoedd hysbys, wedi’i ddilyn gan ymweliadau â safleoedd dethol. Arfarnwyd 83 o safleoedd i gyd ac ymwelwyd â thua 60 ohonynt. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd sydd mewn cyflwr gwell wedi’u lleoliad mewn mynwentydd, ac mae’r rhai o’r safleoedd sydd mewn cyflwr gwael neu sydd wedi’u dinistrio i’w gweld mewn trefi.


Croes ym Mynwent Warren, Sir Benfro


Croes ym Mynwent Eglwys Sant Elidyr, Sir Benfro

 

Adroddiad Croesau Canoloesol ac Ol-Ganoloesol (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru