Asesiad O Fwyngloddiau Metel Anfferrus

Mae’r project hwn, a ariannir gan Cadw, yn codi yn sgil cyhoeddi Strategaeth ar gyfer Mwyngloddiau Metel Cymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn Ionawr 2002. Yn yr adroddiad hwnnw cafwyd “rhestr flaenoriaeth” o 50 o fwyngloddiau metel anfferrus ledled Cymru y tybir eu bod yn cyfrannu at lygru’r amgylchedd ac amharu ar ansawdd y dwr. Mae 42 o’r safleoedd hynny yn nhair sir de-orllewin Cymru a 38 ohonynt yng Ngheredigion. Bwriadai’r Asiantaeth ymgynghori’n eang cyn mynd ati i lunio cynlluniau cywiro ar gyfer y safleoedd hyn.

Mae’r project hefyd yn adeiladu ar arolwg helaethach Robert Protheroe-Jones o Fwyngloddiau Metel Ceredigion ym 1993. Yn y project hwnnw cafwyd dadansoddiad o’r wybodaeth a oedd ar gael am fwy na 200 o fwyngloddiau metel anfferrus ym maes mwynau Ceredigion, ynghyd ag arolwg maes cyflym o safleoedd y mwyngloddiau pwysicaf. Fe esgorodd hynny ar archif o nodiadau ar y safleoedd ac ar fapiau AO 1:10560 annodedig, data hanesyddol cyffredinol am fwyngloddio a llyfryddiaeth fanwl ynghylch mwyngloddio metelau yng Ngheredigion. Bu’n fodd i gofnod – a oedd bron yn gyflawn – o safleoedd mwyngloddio Ceredigion gael ei fwydo i gronfa ddata’r CHA. Er hynny, cadwyd manylion y project fel cofnod ar bapur yn unig ac ni chafodd terfynau’r mwyngloddiau ond eu cofnodi ar sylfaen fapiau cofnod papur yr CHA. Nid oedd mapio digidol ar gael bryd hynny.

Amcan y project cyfredol oedd ehangu’n gwybodaeth am y mwyngloddiau metel a ymddangosodd ar restr flaenoriaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer gwaith cywiro, a chyflwyno argymhellion i Cadw ynghylch eu cofrestru. O’r 42 safle yn ne-orllewin Cymru, nodwyd bod angen cloriannu 29 ohonynt ymhellach ac fe ymwelwyd â hwy yn ystod 2002. Lluniwyd adroddiad interim arnynt yn sgil yr ymweliadau hynny.

 

Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru