Crugiau Cron Pant y Butler

Fe arolygwyd dau grug gron ym Mhant y Butler ger Ceredigion yn 2008. Mae’r crugiau mewn cae ar sydd yn cael ei weithio yn drwm ac maent dim ond yn parhau i ddwfn o 0.5m. Mae’r arolwg geoffisegol yn dangos fod gweddillion dan ddaear yn debygol yn parhau ac yn ychwanegol i’r dau grug fe ddarganfyddwyd tri crug posib arall.


Dyfyniadau o arolygion geoffisegol a topograffig Pant y Butler

Ym mis Medi 2009, dechreuwyd proses gloddio arbrofol ar y ddau feddrod crwn sy’n sefyll. Ychydig iawn oedd wedi goroesi o ran y beddrod llai, er y daethpwyd o hyd i fedd canolog a chloddiwyd hwn. Roedd yn cynnwys claddedigaeth losgi heb nwyddau bedd. Mae’n debyg bod y bedd hwn wedi dod i gysylltiad â chladdedigaeth flaenorol gan fod esgyrn wedi’u llosgi, siarcol a darnau o yrnau y tybir eu bod yn deillio o’r Oes Efydd wedi’u gwasgaru yn y bedd a throsto. Mae’r ychydig ddeunydd sydd wedi goroesi o’r beddrod hwn yn awgrymu ei fod yn garn yn hytrach na thomen o bridd. Ni ddaethpwyd o hyd i fedd canolog y beddrod mwy. Gwnaeth y beddrod hwn oroesi ar uchder o hyd at 0.5 metr a diamedr o 15-18 metr a chafodd ei adeiladu o bridd, tywarchen yn bennaf, ond gydag ychydig o gerrig. Ymddangosai mai nodwedd ar frig y twmpath sydd ar ôl oedd astell losg mewn man carregog. Mae’n debyg bod pwll yn llawn cerrig gerllaw yn beth modern, ac mae’n bosibl ei fod yn gloddfa hynafol a gynhaliwyd pan oedd y beddrod yn sefyll ar uchder uwch o lawer. Profwyd bod beddrodau posibl eraill a leolwyd yn ystod yr arolwg geoffisegol yn ddaearegol o ran eu tarddiad. Y gobaith yw cwblhau cloddio’r beddrod mwy yn 2010.


Cloddio bedd y beddrod lleiaf


Astell losg ar ben y beddrod fwyaf

Yn ystod mis Medi 2010, cafodd y beddrod crwn mwy ei gloddio’n gyfan gwbl. Canfuwyd bod twll wedi’i lenwi â cherrig, y credwyd ei fod yn gloddiad hynafiaethydd yn 2009, yn fedd mawr o’r Oes Efydd a gloddiwyd trwy’r beddrod ac a oedd yn cynnwys corfflosgiad a mwclis gleiniau muchudd. Mae’n ymddangos bod y bedd mawr hwn wedi dinistrio prif fedd y beddrod yn fwriadol. Bydd adroddiad llawn ar y cloddiadau yn cael ei baratoi yn 2010.

Hoffem ddiolch i Mr David George am ganiatáu i ni gloddio ar ei dir. Hoffem hefyd ddiolch am ymroddiad gwirfoddolwyr lleol, gan na fyddai’r cloddiad wedi digwydd hebddynt.


Y bedd wedi ei gloddio ym Mhant y Butler a’r asgwrn wedi’i amlosgi


Nid oedd y tywydd yn ddelfrydol bob tro. Cloddio’r bedd canolog


Mwclis gleiniau muchudd Pant y Butler ar ol cael eu glanhau yn y labordy
Llun: Phil Parkes, Prifysgol Caerdydd

 

Adroddiad Pant y Butler (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Cloddiad Crugiau Cron Pant y Butler 2009 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Arolwg Topograffig a Geoffisegol Pantybutler, Llangoedmor, Ceredigion (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)

Adroddiad terfynnol Pant y Butler 2010 (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru