Cwningaroedd

Roedd cwningod yn elfen bwysig o’r dirwedd ganoloesol a’r dirwedd ffermio yn ddiweddarach. Er mwyn ffermio cwningod yn llwyddiannus, adeiladwyd cwningaroedd artiffisial y mae archaeolegwyr yn eu galw’n ‘tomenni clustog’ oherwydd eu siâp. Mae’r tomenni hyn yn gyffredin ar draws de Prydain, ond nid oes llawer o gofnod ohonynt yn ne-orllewin Cymru. Nod y prosiect hwn oedd asesu cyflwr y safleoedd hysbys yn y rhanbarth ac argymell yr enghreifftiau gorau ohonynt i’w hamddiffyn yn statudol.

Mae’r rhan fwyaf o’r tomenni clustog yn ne-orllewin Cymru i’w gweld ar dir ymylol, ar hyd yr arfordir neu ar gyrion ucheldiroedd, ac mae’n debygol eu bod yn dyddio o’r 18 fed ganrif a’r 19 eg ganrif, er yr ystyrir bod y cwningar mwyaf yn ne-orllewin Cymru sydd â thros 30 o domenni clustog ym Mryn Cysegrfan ger Llanbedr Pont Steffan yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Mae gan y rhan fwyaf o’r tomenni clustog y ffurf betryalog, isel gyffredin.


Enghreifftiau da o domenni clustog ucheldirol yn Sir Gaerfyrddin

 

Adroddiad Cwningaroedd 2013 (Saesneg yn unig – mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd – 11.7MB o faint)

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru