Cofnodi Ffermydd Hanesyddol

Dyma brosiect a ariennir gan Cadw. Mae’n ffurfio rhan o brosiect Dyfed gyfan i gofnodi ffermydd a fydd yn cael ei orffen erbyn mis Mawrth 2021.

Mae’r prosiect hwn yn ddilyniant o’r prosiect peilot a gynhaliwyd yn 2017-18. Adnabuwyd, disgrifiwyd ac aseswyd cyflwr y ffermydd yn Sir Gaerfyrddin na chofnodwyd yn ystod y prosiect peilot.

Roedd methodoleg y prosiect yn seiliedig ar yr un a ddefnyddiwyd gan Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol yn Lloegr a’i addasu wedi hynny gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, gyda rhagor o addasiadau yn cael eu gwneud ar gyfer y cam hwn o’r prosiect. Ni ragwelir y bydd rhaid gwneud addasiadau pellach i gofnodi ffermydd yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin dros y ddwy flynedd nesaf.

Roedd y prosiect hwn yn ymarfer cofnodi cyflym, desg a ddefnyddiai mapio GIS Arolwg Ordnans hanesyddol a modern ar y cyd â lluniau o’r awyr. Dros gyfnod y prosiect cyfan 2017-19, adnabuwyd, disgrifiwyd ac aseswyd cyflwr oddeutu 5300 o ffermydd (oddeutu 4700 yn y cam hwn). Rhagwelir y bydd ffermydd ar hyd a lled Dyfed (oddeutu 12000) wedi cael eu hadnabod gan ddefnyddio’r dull hwn erbyn mis Mawrth 2021.

 

Cofnodi Ffermydd Hanesyddol – Astudiaeth Beilot

Cofnodi Ffermydd Hanesyddol Sir Gar 2018-19

Cofnodi Ffermydd Hanesyddol – Sir Benfro

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru