Cofnodi Chwareli Cerrig Hanesyddol

Mae wedi cael ei gydnabod nad oes cronfa ddata o chwareli cerrig a weithiwyd yn hanesyddol yw gael, sy’n fater ar gyfer adfer a cadwraeth adeiladau, yn ogystal â rheolaeth treftadaeth. Mae’r prosiect peilot hwn yn mynd i ymdrin â’r mater hwn ac yn awgrymu methodoleg ar gyfer creu Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol sylfaenol ar gyfer chwareli cerrig a weithiwyd yn hanesyddol. Dewiswyd ardal sampl 10km x 10km a chreu cofnodion ar gyfer y 242 o chwareli a nodwyd yn y mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol. Mae allosodiadau o’r sampl hon yn nodi bod tua 13,000 o chwareli cerrig hanesyddol yn Nyfed wedi’u marcio ar fapiau’r Arolwg Ordnans.

 

Cofnodi Chwareli Cerrig Hanesyddol Astudiaeth Beilot

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru