Mynwent Canoloesol Cynnar Sain Ffraid

Am sawl can mlynedd mae ymwelwyr i’r traeth yn Hafan Sain Ffraid wedi sylwi beddau ochr carreg yn cael eu dadorchuddio gan erydiad y clogwyn isel i’r gogledd o egwlys y plwyf. Dros pythefnos ym Mis Mawrth 2009, fe asewyd diogelwch dyfodol y safle a maint y fynwent. Fe ddarganfyddwyd pump bedd, rhai gyda ochrau carreg. Fe arolygwyd beth sy’n bosib yw ffin y fynwent a sylfaen beth efallai yw eglwys a siaradwyd amdani mewn hen ddogfennau.


Gwirfoddolwyr lleol yn cymeryd rhan yn y cloddiad.

Yn dilyn gwerthusiad o’r safle yn 2009, cynhaliwyd cloddiad mwy o faint dros bedair wythnos ym mis Mawrth a mis Ebrill 2011. Cloddiwyd dros 35 o feddau. Roedd cadwraeth esgyrn yn wael ar y cyfan; roedd rhai beddau heb ddim esgyrn, ac mewn eraill cafwyd darnau o benglogau a dannedd yn unig. Er hynny, roedd rhai claddedigaethau wedi cadw’n well. Y gobaith yw y bydd y deunydd a adferwyd yn rhoi rhagor o dystiolaeth ar gyfer dyddio radio-carbon, ac o bosibl deunydd ar gyfer dadansoddi isotop sefydlog. Roedd y fynwent yn ymddangos yn wahanol o ran cymeriad i safleoedd mynwent eraill a gloddiwyd yn ddiweddar yn y rhanbarth ac, yn dilyn dadansoddiadau arbenigol o’r deunydd ysgerbydol dynol ac o gymeriad y claddedigaethau, bydd y canlyniadau’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cymharu gyda safleoedd eraill a archwiliwyd fel rhan o Brosiect Mynwentydd Canoloesol Cynnar Sir Benfro.

Cynhaliwyd y cloddiad gan staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol. Ariannwyd y prosiect gyda chymorth grant gan Cadw a PLANED a gyda chyfranogiad Archaeolegydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.


Dyddiau cynnar yng nghloddiad Sain Ffraid yn 2011

Adroddiad terfynol Cloddiad Sain Ffraid mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd)

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru