Yn dilyn ymchwiliadau archeolegol gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a gwirfoddolwyr yn y pentref canoloesol gwag a ymddangosodd o’r twyni tywod yn 2010 a 2011, gwnaed rhagor o waith yn ddiweddar ar ôl erydu parhaus sy’n datgelu’r adeiladau carreg ar y safle. Dangosodd canlyniadau’r ymchwiliadau dechreuol hynny bod yno bedwar strwythur a ffosydd a phantiau yn gysylltiedig â’r safle. Mae’r crochenwaith a ganfuwyd ar y safle o’r 13eg a’r 14eg ganrif yn bennaf, gyda rhywfaint o ddeunydd o’r 12fed ganrif a nifer fach o gerameg hwyrach. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y cafodd y pentref ei adael yn wag yn y 15fed ganrif, o bosibl o ganlyniad i dywod yn chwythu i’r safle ac yn cronni yno.
Yn hydref 2017, ymgymerwyd â rhaglen gloddio ar bedwar strwythur newydd a brofodd erydiad i’r de o’r ymchwiliadau blaenorol. Unwaith eto, gwnaed y gwaith â chymorth gwirfoddolwyr. Roedd waliau gorllewinol y ddau strwythur i’w gweld ar waelod y twyni tywod. Roedd mwyafrif yr adeilad gorllewinol wedi’i orchuddio gan y twyni, ond roedd rhan o dalcen tal yr adeilad yn y de yn weladwy. Roedd hyd cyfan 12m yr adeilad drws nesaf i’w weld yn llwyr, gyda gweddillion drws a threfniant o slabiau carreg siâp hanner cylch o’i flaen.
Roedd y ddau adeilad nesaf bron â bod i’w gweld yn llwyr ar ochr y traeth. Roedd un ohonynt wedi cael ei niweidio’n ddifrifol gan erydiad, a gwaelod llinellau’r wal yn unig oedd i’w gweld yn yr ardal a astudiwyd. Mae gweddillion eraill y strwythur hwn wedi cael eu heffeithio gan stormydd ar ddiwedd 2017 ar ôl i’r ymchwiliadau ddod i ben. Goroesodd yr adeilad arall i bron i fetr o uchder i’r dwyrain, gyda rhywfaint o’r waliau carreg yn goroesi i’r gorllewin. Unwaith eto, roedd yr adeilad hwn tua 12m o hyd a thua 6m o led. Goroesodd haenau’r llawr o fewn y strwythur, er mai ardal fach yn unig a gloddiwyd yma. Ni chafwyd unrhyw ganfyddiadau o haenau’r llawr ac eithrio un tag aloi copr, sydd o’r cyfnod canoloesol, mwy na thebyg. O dan wal ddeheuol yr adeilad hwn, roedd llinell wal gynharach bosibl i’w weld, ond nid oedd digon o amser i ymchwilio ymhellach yn ystod tymor cloddio 2017. Datguddiwyd mwy o ddarnau gwydr o’r 13eg a 14eg ganrif yn ymchwiliadau 2017, yn ogystal â rhan o fortar carreg wedi torri o’r oesoedd canol. Mae’r holl adeiladau a gofnodwyd ar gyfer y safle hyd yma wedi cael eu hadeiladu mewn ffordd debyg iawn, a tua’r un pryd. Mae’r casgliad yn ymestyn am bron i 300 metr ar hyd gwaelod y twyni tywod o’r gogledd i’r de, ond nid ydym yn gwybod beth yw hyd a lled y pentref i’r dwyrain. Collwyd yr adeiladau ar yr ochr orllewinol o ganlyniad i erydiad arfordirol.
Llanishmel, Sir Gaerfyrddin – Adroddiad 2010
Llanishmel, Sir Gaerfyrddin – Adroddiad 2011
Llanishmel Adroddiad Dros Dro 2017
Dyddiadur Cloddio Llanishmel 2018
Adroddiad Cyhoeddedig Llanishmel