Eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn

Nodwyd manylion archaeolegol a phensaernïol na sylwyd arnynt o’r blaen yn ystod y gwaith adfer ar Eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn. Yn sgil symud y plaster mewnol ac ail-bwyntio’r allanolion datguddiwyd hanes adeiladu cymhleth yr eglwys. Mae pum cyfnod adeiladu; a phob un heblaw’r olaf yn ganoloesol, gyda’r cyntaf yn dyddio o bosibl o’r 13eg ganrif. Prin yw manylion pensaernïol y canol oesoedd sy’n parhau, ond manteisiwyd ar y cyfle yn ystod y cloddio i gofnodi dwy ffenestr o ddiwedd y canol oesoedd a manylder arall. Mae teils llawr o’r canol oesoedd, a gafwyd yn y 19eg wrth gloddio capel y de, yn awgrymu y bu i’r capel lawr o ansawdd uchel. Dangosodd cloddio am ffosydd gwasanaethu y tu allan i’r eglwys ychydig a oedd o ddiddordeb heblaw am bydew yn llawn esgyrn dynol. Gwnaed y gwaith ar ran Cyngor Plwyf Llansadwrn.


Ffenestr ganoloesol ym mur gorllewinol Eglwys Sant Sadwrn a ddatguddiwyd yn ystod y gwaith adfer.

Adroddiad Eglwys Sant Sadwrn (mewn ffurf Adobe Acrobat – yn agored mewn ffenestr newydd. Saesneg yn unig.)

Cyswllt: Ken Murphy

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru