Fila Rhufeinig Trenewydd Uchaf yng Nghasblaidd

Nid oes llawer o dystiolaeth o anheddiad Rhufeinig yn ne-orllewin Cymru. Yr unig fila hysbys yw Llys Brychan yn Sir Gaerfyrddin, ond cafodd ail fila ei darganfod yn ddiweddar ger caer Rufeinig Trawscoed yng Ngheredigion. Mae’n debyg ei bod yn well dosbarthu safleoedd filâu posibl eraill yng ngorllewin Cymru yn ffermydd Rhufeinig.

Mae safle’r fila bosibl ger Cas-blaidd wedi’i leoli i’r dwyrain o Ford Camp, sef lloc amddiffynnol o’r Oes Haearn. Ym 1811, disgrifiodd Fenton ymweliad i archwilio darganfyddiad, o’r hyn yr oedd ef yn ystyried yn rhan o faddonau Rhufeinig mewn banc clawdd gerllaw. Yn 2003, cynhaliodd Dr Mark Merrony arolwg geoffisegol a oedd yn dangos tystiolaeth o adeilad hirsgwar. Datguddiodd cloddiad bychan ar y pryd wyneb palmantog o lechfeini mawr a thystiolaeth arall yn awgrymu adeilad Rhufeinig.

Eleni, mae YAD wedi ei ariannu gan Cadw i egluro ymhellach ein dealltwriaeth o’r safle, ac i helpu i wneud penderfyniadau am amddiffyn y safle yn y dyfodol.

Fe wnaeth arolwg geoffisegol yn 2010 gwmpasu ardal ehangach na’r arolwg yn 2003 ac fe ddatguddiodd yr hyn a oedd yn ymddangos yn lloc amddiffynnol o’r Oes Haearn yn agos at safle’r fila dybiedig. Fodd bynnag, ni ddatguddiodd cloddiad ar safle’r fila dybiedig unrhyw dystiolaeth o’r fila.

 

Yr arolwg geoffisegol yn 2010. Mae safle tybiedig y fila yn y fan lle mae ffiniau’r caeau yn cysylltu yn y pen yn y canol. Sylwch ar y lloc amddiffynnol a ddarganfuwyd yn ddiwedd tua gwaelod yr arolwg, ar y chwith.

 

Adroddaid Fila Rhufeinig Trenewydd Uchaf (Mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru