Awgrymwyd bod caer Rhufeinig yng Nghas-wis yn Sir Benfro yn y gorffennol, ond ni chafwyd tystiolaeth gadarn ohoni tan y dadansoddwyd data Lidar. Cafodd hyn ei ddilyn gan arolwg geoffisegol yn 2012 a atgyfnerthodd y ddadl o blaid caer yng Nghas-wis. Nid oedd y dystiolaeth geoffisegol yn bendant, ond ymddengys ei bod yn dangos caer ‘cerdyn chwarae’ clasurol â thair ffos.
Arolwg geoffisegol o gaer Rhufeinig Cas-wis
Dangosodd cloddio prawf yn 2013 fod y safle’n gaer Rhufeinig. Cafodd pedair ffos eu cloddio er mwyn archwilio amddiffynfeydd y gaer a rhan o’i chynllun mewnol. O ystyried bod y safle wedi cael ei aredig yn rheolaidd, roedd yr archaeoleg wedi ei chadw’n syndod o dda – goroesodd gwaelod y cloddiau amddiffynnol clai, roedd gweddillion ffordd ‘intervallum’ o dan wyneb y ddaear, a dangosodd nifer o dyllau pyst sylweddol leoliad blaenorol adeiladau pren sylweddol. Wrth archwilio’r crochenwaith, ceir awgrym y cafodd y gaer ei meddiannu ar ddiwedd y ganrif gyntaf/dechrau’r ail ganrif OC ac y cafodd ei hailddefnyddio rhwng canol yr ail ganrif i ganol y drydedd ganrif OC, efallai fel safle sifil.
Dyma’r gaer Rhufeinig gyntaf i’w darganfod yn Sir Benfro. Rydym yn chwilio am ragor.
Gwirfoddolwyr yn dechrau datgelu’r ffordd ‘intervallum’
Darn o’r ffordd ‘intervallum’. Sylwer ei bod wedi cadw’n dda
n 2014, dangosodd arolwg geoffisegol pellach bresenoldeb ddyddodion archaeolegol helaeth i’r de o’r gaer. Dangosodd cloddio mai olion anheddiad sifiliaid y cyfnod Rhufeinig oedd y rhain, yn ôl-ddyddio’r defnydd milwrol o’r gaer. Gwnaed gwaith cloddio pellach y tu mewn i’r gaer hefyd.
Cynllun dehongli cryno o arolygon geoffisegol o fewn caeau i’r de o’r gaer a phrif nodweddion y gaer
Cloddio un o’r ffosydd yn yr anheddiad sifil
Adroddiad dros-dro y Gaer Rhufeinig Cas-wis 2013 (PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddiad dros-dro y Gaer Rhufeinig Cas-wis 2014 (PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddiad Geoffisegol Caer Rhufeinig Cas-wis (PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)