Mae tair hwlc, bob un ohonynt yn Heneb Restredig ddynodedig, yn gorwedd gerllaw sianel llanw wedi’i chamlesu Afon Leri yn Ynyslas, Ceredigion. Mae un o’r hylciau, sef Llongddrylliad 3 a phrif wrthrych yr ymchwiliad archaeolegol, yn ymwthio allan i’r sianel ac mae’n erydu. Mae’n debyg bod yr hylciau yn llongau cludo llechi wedi’u hadeiladu’n lleol. Erbyn dechrau’r 1860au, fe wnaeth adeiladu rheilffordd i’r gorllewin o Fachynlleth ladd y fasnach longau ac adeiladu llongau ar y Leri i bob pwrpas, ac ym 1868 rhoddwyd y tair hwlc ar lan orllewinol y Leri i farcio sianel.
Mae’r gwaith archaeolegol wedi cadarnhau bod y tri llongddrylliad o feintiau gwahanol. Mae cloddio Llongddrylliad 3 yn dangos fod y dec gwreiddiol wedi erydu, ond bod gwaelod y crombil yn dal i oroesi. Mae gwrthrychau wedi goroesi o fewn y crombil, gan gynnwys darnau o lechi triniedig, olion bwced, darn o raff a blwch pren bach.
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a ymgymerodd â’r prosiect, ar y cyd ag Uned Deifio Archaeolegol Malvern / y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol a CBHC.
Adroddiad dros dro Llongddrilliad Ynyslas 2014 (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddiad dros dro Llongddrilliad Ynyslas 2016 (mewn ffurf PDF – yn agored mewn ffenestr newydd)