DARGANFYDDWCH DREFTADAETH Y RHYFEL BYD CYNTAF YNG NGHYMRU

DISCOVER THE LEGACY
OF THE WAR IN WALES

1914

1918

 

FFATRI ARFAU PEN-BRE

Yn ystod yr 1880au, sefydlwyd ffatri dynamit ym Mhen-bre. Daeth y safle'n ffatri arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf, hon oedd safle un o'r ffatrioedd mwyaf o'i bath yng Nghymru, gan gynhyrchu TNT a thanwydd. O 1916, cafodd dros 3000 o ferched eu cyflogi ar lawr y ffatri, gan ymgymryd â thasgau peryglus fel llenwi arfau. Ar ôl y rhyfel, caewyd y safle ym 1926 a'i roi ar werth. Roedd dros 400 o adeiladau ar y safle.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y safle'n cynhyrchu eto. Roedd y rhan fwyaf o'r safle wedi ei hadeiladu o'r newydd gyda dim ond rai o adeiladau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu hail-ddefnyddio.

Yn dilyn cau'r ffatri yn y 1960au, mae llawer o glirio a thirlunio wedi bod ar y safle ac mae hi nawr yn rhan o'r Parc Gwledig a agorodd ym 1980. Fodd bynnag, mae nifer o nodweddion arwyddocaol wedi goroesi.

Cafodd y prosiect ‘Darganfod etifedd y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhen-bre' ei ariannu a'i gefnogi gan Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Arweiniwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a hoffai ddiolch hefyd i Gyngor Sir Caerfyrddin am eu cefnogaeth hael. Mae'r prosiect wedi codi ymwybyddiaeth o archeoleg y Rhyfel Byd Cyntaf o fewn y parc. Mae wedi cynnwys pobl leol a phlant ysgol a'u hannog i ddarganfod archeoleg a deall arwyddocâd y safle. Cynhyrchwyd arddangosfa symudol a thaflenni i'w defnyddio'n lleol.

 

Cynhyrchu Arfau ym Mhen-bre (Saesneg yn unig)

Taflen Pen-bre 1

Taflen Pen-bre 2

 

Adnoddau Addysgol


PEMBREY MUNITIONS FACTORY

During the 1880s a dynamite factory was established at Pembrey. The site went on to become a munitions factory during the First World War. In World War 1 this was the site of one of the largest such plants in Wales, producing TNT and propellant. From 1916 over 3000 women were employed on the shop floor, undertaking dangerous tasks such as filling shells. After the war the site was closed in 1926 and put up for sale. There were over 400 buildings on the site.

During the Second World War the site was again in production. Most of the site was newly constructed with just a few WW1 structures being reused.

Following its closure in the 1960s much of the complex has been subject to clearance and landscaping and it now forms part of the country park which opened in 1980, there are however a number of significant features which survive.

The ‘Discovering the legacy of the first World War in Pembrey' project was funded and supported by Cadw, Welsh Government's historic environment service and Heritage Lottery Fund. The project was led by Dyfed Archaeological Trust, who would also like to thank Carmarthenshire County Council for their generous support. The project has raised awareness of the First World War archaeology within the park. It has involved local people and school children in discovering archaeology and understanding the significance of the site. A mobile exhibition and leaflets have been produced to be used locally.

 

 

 

 

 


 

Photos / Darluniau

Background - Map showing the defences around the Royal Dockyard at Pembroke Dock, dated 1916 (The National Archives, ref. WO78/4399)
Cefndir - Map yn dangos yr amddiffynfeydd o amgylch yr Iard Longau Brenhinol yn Noc Penfro, dyddiad 1916 (Yr Archifau Cenedlaethol, cyf WO78/4399)