Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

188 GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU

CYFEIRNOD GRID: SN 526179
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 222.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd lle y lleolir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sy'n gydamserol chyn Barc Middleton, tirwedd a grwyd yn bennaf gan William Paxton rhwng 1789 a 1824. Fodd bynnag, roedd plasty wedi bodoli ar y safle ers yr 17eg ganrif o leiaf ac mae'r ardal yn cynnwys nodweddion a all fod yn gysylltiedig ag aneddiadau cynhanesyddol a Chanoloesol posibl ar y safle. Cymerwyd y rhan fwyaf o'r hanes hwn o waith Ludlow, 1995. Dywedir i Henry Middleton adeiladu'r plasty cyntaf yng nghanol yr 17eg ganrif ac ym 1670 cynhwysai'r anheddiad, beth bynnag oedd ei ffurf, 17 o aelwydydd. Mae'n bosibl bod cwningar a phwll pysgod yn gysylltiedig 'r cyfnod cynnar hwn. Trosglwyddwyd yr ystad i'r teulu Gwyn tua 1740. Mae'n bosibl bod y parcdiroedd wedi'u casglu i ffurfio uned gryno erbyn 1789 pan brynodd Paxton yr ystad. O dan Paxton dymchwelwyd y plasty a'i ailadeiladu ar safle gwahanol gan y pensaer Samuel Pepys Cockerell ym 1793-5, ac roedd parc ffurfiol wedi'i sefydlu erbyn 1815. Fe'i nodweddid gan y defnydd helaeth a wni o nodweddion dr gan gynnwys cadwyn o lynnoedd a rhaeadrau, a luniwyd ar raddfa fawr gan gynllunydd gerddi anhysbys, William Emes neu John Webb o bosibl, ac a gyflawnwyd yn l pob tebyg gan beiriannydd Paxton, sef James Grier. Ychwanegwyd gardd wal o'i hamgylch, bloc stablau, ystafelloedd i'r gweision ac ati gan Cockerell a chan ei olynydd. Bu farw Paxton ym 1824 a throsglwyddwyd yr ystad i Edward Adams. Esgeuluswyd nodweddion y parcdir ffurfiol a gosodwyd llawer o'r tir i denantiaid, ac o ganlyniad roedd i'r ystad naws amaethyddol bendant erbyn i fap degwm Llanarthne gael ei lunio ym 1849. Fodd bynnag ymddengys fod y nodweddion dr wedi'u cynnal a'u cadw hyd at yr ugeinfed ganrif pan gaffaelwyd yr ystad gan y teulu Hughes. Llosgwyd y neuadd yn ulw ym 1931, ac fe'i dymchwelwyd yn y 1950au o dan Gyngor Sir Gaerfyrddin a oedd wedi caffael y parc ar ddiwedd y 1930au, a pharhaodd y parcdir i ddirywio. Er 1996, fodd bynnag, mae wedi'i ddatblygu fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal dirwedd hanesyddol hon yn cynnwys cyn erddi a pharcdir Neuadd Middleton; mae'r rhain wrthi'n cael eu hadfer a'u trawsnewid i greu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. O ran ei chynllun mae'r dirwedd yn ffurfio hirgrwn cryno, sydd wedi'i rannu'n gyfartal gan nant yn llifo o'r de i'r gogledd sy'n ymuno ag Afon Gwynon sy'n llifo i'r gorllewin ym mhen gogleddol yr ardal, ac mae'n codi i 120 m lle y mae ar ei huchaf. Ymhlith y nodweddion yn y dirwedd sy'n hn na'r parc mae ardal grwn a rhych a linsiedau posibl. Codwyd argae ar draws y nant gyntaf ym 1800-1815 i greu cyfres o lynnoedd addurnol, tra adeiladwyd cyfres o bontydd a rhaeadrau i ychwanegu at harddwch yr ail. Ceir nifer o ffynhonnau haearnol yn y parc. Erbyn hyn mae Neuadd Middleton wedi mynd ar wahn i floc y gweision, tra bod adeiladau ac iardiau eraill wedi goroesi. Mae elfennau o'r ardd a'r parc i'w gweld o hyd, er eu bod mewn cyflwr adfeiliedig a/neu dra anniben, gan gynnwys y llynnoedd a oedd yn llawn silt ond sy'n cael eu hadfer, nodweddion dr eraill, a thramwyfeydd. Erbyn hyn mae'r parcdir yn cynnwys porfa wedi'i gwella a heb ei gwella ac ychydig o dir mwy garw, a chlystyrau o goed collddail, a'r unig dystiolaeth o'r defnydd blaenorol a wneid ohono yw ei gymeriad agored cyffredinol. Ar hyd y rhan fwyaf o ffin y parc ceir clawdd pridd isel, a gwrych, ond i'r gogledd-ddwyrain ceir wal derfyn gerrig morter arni sydd mewn cyflwr gwael. Y tu mewn isrennir y parc gan ffensys gwifrau yn bennaf, gyda rhai cloddiau pridd a gwrychoedd. Canolbwynt y gerddi newydd fydd t gwydr enfawr sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar safle'r hen erddi ffurfiol.

Ar wahn i'r nodweddion a nodwyd uchod sy'n rhagflaenu'r parcdir, sef man darganfod cynhanesyddol a safle'r plasty cynharach, a gynrychiolir o bosibl gan lwyfan ar wrthglawdd, mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys parcdir ac adeiladau yn bennaf. Mae'r rhain yn cynnwys safle'r neuadd a oedd at ei gilydd yn strwythur neo-Paladaidd, gerddi ffurfiol, safle t gwydr, perllan ac o leiaf ddau faddondy a gyflenwid gan y ffynhonnau haearnol. Mae bloc y gweision, sy'n dyddio o ddiwedd y 1840au, wedi goroesi ond mae wedi'i drawsnewid y tu hwnt i adnabyddiaeth bron yn anheddau.

Mae'r bloc stablau (rhestredig Gradd II), yr ardd dwy wal o'i hamgylch, y rhewdy, a fferm y plas, sy'n dyddio o 1800-1850, hefyd wedi goroesi i wahanol raddau ac maent wedi'u hadfer. Hefyd mae'r nodweddion dr sydd wedi goroesi ar ffurf argaeau, rhaeadr a phontydd, gyda'r mwyafrif ohonynt yn dyddio o 1800-1815. Mae porthordai wedi goroesi, er mai anheddau preifat ydynt erbyn hyn.

Collodd yr ardal dirwedd hanesyddol hon lawer o'i helfennau nodweddiadol dros nifer o ddegawdau ac mae wedi dechrau ymdoddi i'r tir ffermio o'i hamgylch a chymryd ei nodweddion. Fodd bynnag, bydd y rhaglen adfer ac adeiladu gyfredol yn ailsefydlu elfennau tirwedd hanesyddol ac yn creu rhai newydd, a fydd o ganlyniad yn ei gwahanu oddi wrth yr ardaloedd o'i hamgylch.

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]