|
196 YSTRAD TYWI: LLANDEILO - LLANGADOG
CYFEIRNOD GRID: SN 662250
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 769.40
Cefndir Hanesyddol
Ardal gul, hir sy'n ymestyn o Landeilo yn y gorllewin i Langadog i'r dwyrain,
a leolir yng ngorlifdir llifwaddodol ffrwythlon Afon Tywi ac sy'n cynnwys
hyd byr o un o'i hisafonydd, sef Afon Dulais. Y dyffryn oedd prif goridor
y llwybr hanesyddol i mewn i Orllewin Cymru ac adeiladwyd y ffordd Rufeinig
o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, sy'n ffurfio ymyl ogledd-orllewinol yr ardal
gymeriad hon, ar hyd y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a daeareg solet ochr
ogleddol Afon Tywi. Dilynwyd y ffordd Rufeinig hon fwy neu lai gan ffordd
dyrpeg ddiweddarach a ffordd bresennol yr A40(T) - gweler hefyd Ardal
182. Mae Afon Tywi yn yr ardal hon yn arbennig o fywiog a cheir newidiadau
cyson a sylweddol yng nghwrs yr afon ar draws llawr y dyffryn; mae'n torri
ac yn aildorri ei ffordd trwy'r llifwaddod gan adael rhwydwaith o ystumiau
ac ystumllynnoedd (Ludlow 1999, 21). Mae tystiolaeth o fapiau, dogfennau
a ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn awgrymu bod y cwrs wedi newid yn
fawr ers y cyfnod Ôl-Ganoloesol hyd yn oed. Felly roedd y ffordd Rufeinig
wedi'i chyfeirio ar hyd y tir uwch ychydig oddi ar lawr y dyffryn, ac
ychydig iawn o anheddu a fu ar y gorlifdir ei hun.; erbyn hyn nid oes
unrhyw ffermydd nac anheddau o fewn yr ardal. Fodd bynnag, roedd y dirwedd
wedi'i hamgáu, gan greu'r patrwm presennol o gaeau rheolaidd, erbyn i'r
arolygon degwm gael eu cynnal yn ail chwarter y 19eg ganrif; dechreuwyd
ar y broses yn ystod y 18fed ganrif. Mae'r amgylcheddau a'r patrymau anheddu
cynharach a chynhanesyddol a fu yn Nyffryn Tywi ymhlith y rhai 'lleiaf
hysbys' (Cadw/ICOMOS 1998, 28), ond byddai'r rhyngwyneb rhwng y gorlifdir
a'r tir uwch wedi bod yn ardal bwysig o weithgarwch ar gyfer cymunedau
cynnar o bobl yn yr ardal, a byddai wedi darparu mynediad hawdd i adnoddau'r
môr a'i gorstiroedd cysylltiedig tra'n darparu safle sych i fyw arno.
Awgrymodd gwaith archeolegol ad hoc fod yna ardaloedd uchel o dir ar lawr
y dyffryn sy'n ddyddodion rhewlif (ibid.) a nodwyd dyddodion mawn rhwng
y llifwaddod a'r ddaeareg waelodol mewn mannau eraill o fewn Dyffryn Tywi,
er enghraifft yn Abergwili a Phensarn, gerllaw Caerfyrddin (Page 1994,
4,9). Yn y fan hon credid eu bod yn cynrychioli naill ai 'ynysoedd' yn
y gorlifdir, neu ddarnau o'r gorlifdir oedd wedi sychu, tra bod safleoedd
darganfyddiadau digyswllt o'r Oes Efydd, a chrugiau crynion posibl, yn
tystio i weithgarwch cynhanesyddol yn yr ardal hon. Yn ystod y cyfnod
Canoloesol roedd yr afon yn un o brif ffiniau Sir Gaerfyrddin, a gwahanai
Cantref Mawr ar y lan ogleddol oddi wrth Gantref Bychan ar y lan ddeheuol.
(Rees, 1932). O ganlyniad, mae i'r ardal dirwedd hon hanes brith o ran
deiliadaeth, a phrofodd gyfnod cythryblus o ryfela hyd at ddiwedd y 13eg
ganrif. Parhaodd Cantref Mawr, yn wahanol i Gantref Bychan a gafodd ei
oresgyn a'i ailoresgyn yn y 12fed ganrif, i fod yn arglwyddiaeth Gymreig
annibynnol tan 1284 (Rees 1953, xv). Ymddengys na fu pont erioed dros
Afon Tywi rhwng Llandeilo a Llangadog, ond awgrymir bod yna ryd bosibl,
ac efallai safle brwydr Canoloesol, gan yr enw Rhyd-y-Saeson gerllaw Llangadog.
Dilynai ffordd dyrpeg, a sefydlwyd ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43) linell
y ffordd Rufeinig fwy neu lai er i'r cwrs trwy Gwm-Ifor gael ei sythu
o dan Thomas Telford yn y 1820au (Archifdy Sir Gaerfyrddin, Mapiau Cawdor
172) gyda'r pentref yn cael ei ddatblygu ar ôl hynny. Croesir yr ardal
gyfan gan brif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR a agorwyd,
fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym
1858 (Gabb, 1977, 76).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae gorlifdir Afon Tywi rhwng Llandeilo a Llangadog yn codi ychydig
dros 20 m dros 9 km. Ar gyfartaledd mae'n 1.5 km o led. Mae gan y rhan
hon o Afon Tywi, yn wahanol i'r rhan isaf rhwng Caerfyrddin a Llandeilo
(Ardal 182), gylch erydu a dyddodi gweithredol dros rannau hir o'i chwrs,
ac ystumiau sy'n symud. Yn y mannau hyn ceir tir corslyd, prysglog a garw.
Mewn mannau eraill mae'r gorlifdir wedi'i rannu'n batrwm braidd yn llac
o gaeau afreolaidd a rheolaidd canolig-i-fawr eu maint o borfa wedi'i
gwella gan wrychoedd heb gloddiau a chloddiau â gwrychoedd ar eu pennau.
Mae'r gwrychoedd heb gloddiau wedi'u plannu ar lawr y dyffryn i hwyluso
draenio llifddwr yn ôl pob tebyg. Mae cyflwr y caeau hyn yn amrywio gryn
dipyn. Mewn rhai mannau, yn enwedig yn agos at yr afon, prin bod angen
y gwrychoedd a cheir ffensys gwifrau'n rhedeg ar hyd y cloddiau. Mewn
ardaloedd eraill mae'r gwrychoedd yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac
maent mewn cyflwr da. Mae gan lawer o wrychoedd goed gwrych nodweddiadol.
Nid oes unrhyw goetir nac anheddiad yn yr ardal gymeriad
hon. Fodd bynnag tynnwyd sylw at natur goediog y dyffryn gan ysgrifenwyr
cynnar gan gynnwys Leland yn y 1530au (Smith 1906), yr ymddengys ei fod
yn disgrifio'r gorlifdir. Mae'r llinell reilffordd sy'n rhedeg ar hyd
y gorlifdir ar arglawdd isel yn elfen dirwedd nodweddiadol.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig ond mae'n cynnwys
darganfyddiadau o'r Oes Efydd a safleoedd crugiau crynion posibl gerllaw
Llandeilo a Chwm-Ifor. Ymhlith nodweddion diweddarach eraill mae pontydd
ffyrdd a rheilffyrdd, gorsafoedd ac offer rheilffordd eraill. Fodd bynnag,
ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y dyddodion cloddedig o fewn y gorlifdir.
Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol.
Mae'r systemau caeau llac a'r diffyg aneddiadau a choetir
ar orlifdir Afon Tywi yn creu ardal gymeriad hynod ac mae'n gwrthgyferbynnu
â'r ardal o dir cyfannedd oddi amgylch (Ardaloedd 191, 201, 202, 204,
205 a 225).
|